google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Eisteddfod Aberteifi ’76: Pwy sy’n cofio Concwest Cilgerran?

“Byddwn ni’n canu a hel atgofion am ganeuon oedden ni’n canu yn ‘Steddfod Aberteifi yn 1976 achos dyw ‘Steddfod Y Garreg Las ddim yn bell iawn o ‘Steddfod ’76, ac mae’r tywydd hefyd yn benthyg ei hunan… oedd hi’n dwym iawn yn ’76 hefyd!

“Ac o leiaf yn y Tŷ Gwerin mae siawns y cawn ni ganu,” chwarddai Geraint.

Un o’r bobl ifanc aeth i Goncwest Cilgerran gan edrych ymlaen at noswaith lawn dop o gerddoriaeth Gymraeg oedd Emyr Davies o Fôn-y-maen ger Abertawe.

Sut mae Emyr yn cofio Concwest Cilgerran?

“Roedd hi wrth gwrs yn braf gweld y bandie gwnaeth berfformio – rhai ohonyn nhw do’n i heb ei gweld yn fyw na hyd yn oed clywed sôn amdanyn nhw o’r blaen.

“Ond roedd peidio clywed yr un nodyn gan Hergest ac Edward H. – y ddau grŵp ro’n i’n benodol wedi mynd i’w clywed – yn siom aruthrol a dweud y lleia’!”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

Check Also

Wales legend Mark Hughes carries son’s coffin as he pays final respects

Leading sports figures joined mourners for the funeral of football agent and former player Alex …

NHS long-term damage warning as graduates still without jobs

Earlier this month Wales’s Health Minister Mabon ap Gwynfor held a summit with health bosses, …

T20 Blast: Chris Lynn hundred helps Northamptonshire into quarter-finals

No other side has won as many games (9) or picked up as many points …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime