google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Côr Iau ABC yn ennill Côr Plant y Byd yn Eisteddfod Llangollen

Un o’r plant a oedd yn y côr buddugol oedd Osian o Gaerdydd. Eglurai ei fam, Casi, ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod hir a phoeth iddyn nhw i gyd, ond yn ddiwrnod bythgofiadwy i’r plant… a’r rhieni.

“Canodd y ddau gôr yn rili da, ac roedd hi’n sioc enfawr pan glywon ni fod y rhai bach wedi ennill. Roedd hi’n ddiwrnod hir, ond ‘naethon nhw’n hollol anhygoel.

“Wedyn ennill Côr y Byd; y plant bach mor excited ac Elin mor shocked!”

Ynghyd â thariannau y Côr Plant Agored a Chôr Plant y Byd, roedd Elin hefyd yn mynd â thlws Arweinydd Mwyaf Ysbrydoledig y Corau Plant yn ôl adref gyda hi, sy’n gwbl haeddiannol, meddai Casi.

“Mae beth mae hi wedi ei wneud gyda’r plant bach ‘ma yn hollol wych. Cant o blant o dan 11, gyda’r ‘fenga’ yn saith oed, ddim yn tynnu eu llygaid oddi wrthi; pob nodyn yn berffaith, pob symudiad yn berffaith. O’dd e’n ffantastig!

“O’dd e’n rili emosiynol i fi, achos pan o’n i tua’r un oedran, ‘nes i ennill yn Llangollen gyda chôr Ysgol Garth, felly ‘nes i lefen lot ddoe!”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Y Gwyrddion i gyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd

Check Also

Llofrudd i roi sampl DNA newydd 30 mlynedd wedi i Lin a Megan Russell farw

Gan fod gwyddoniaeth fforensig wedi datblygu gymaint ers cyfnod yr ymchwiliad heddlu gwreiddiol, gobaith tîm …

Eisteddfod Aberteifi ’76: Pwy sy’n cofio Concwest Cilgerran?

“Byddwn ni’n canu a hel atgofion am ganeuon oedden ni’n canu yn ‘Steddfod Aberteifi yn …

Prinder swyddi graddedigion iechyd yn creu perygl o ‘niwed hirdymor i’r GIG’

Mae Mia Edgeworth, 21, yn ei blwyddyn olaf yn astudio nyrsio ym Mhrifysgol De Cymru …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Bel trainee engineer recruitment 2024 apply process. home improvement product reviews. Elfbar elfx kit silver blue.