google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Apêl yn erbyn cau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng wedi methu

Advertisements

Mae apêl yn yr Uchel Lys yn erbyn penderfyniad i gau canolfan Ambiwlans Awyr y Trallwng wedi methu.

Ym mis Ebrill 2024 fe ddaeth y cyhoeddiad y byddai dwy ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y Trallwng a Chaernarfon yn cau.

Fe ddywedodd rheolwyr y byddai canolfan newydd yn cael ei hagor yn eu lle yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth ymgyrchwyr yn erbyn y penderfyniad i gau canolfan y Trallwng ennill yr hawl i gyflwyno eu hachos o flaen yr Uchel Lys.

Ond ddydd Iau fe ddyfarnodd Mr Ustus Turner fod yr apêl wedi methu.

Wrth roi ei ddyfarniad, fe ddywedodd: “Rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi’n llwyr dyfnder y teimladau a’r siom y bydd y penderfyniad yma yn ei achosi i lawer o bobl yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

“Ond, nid gwaith y llys hwn yw cymryd drosodd y gwaith o wneud penderfyniadau y rheiny sydd wedi derbyn y cyfrifoldeb gan y Senedd.”

Mae ymgyrchwyr wedi mynegi eu siom ond yn addo parhau i frwydro i gadw’r canolfannau yn y Trallwng a Chaernarfon ar agor.


BBC News

Views: 0

See also  Ateb y Galw: Molly Palmer

Check Also

Plentyn 3 oed yn yr ysbyty ar ôl disgyn o ffenestr yng Nghaerfyrddin

Mae plentyn tair oed yn yr ysbyty ar ôl disgyn o ffenestr llawr cyntaf yng …

Cyfarwyddwr o Fôn yn derbyn enwebiad Primetime Emmy

Fe wnaeth ymosodiadau terfysgol Oklahoma City ar 19 Ebrill, 1995, achosi ymdeimlad o sioc ac …

Dyn 18 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori

Mae dyn 18 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori yn sir …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Samurai champloo – the complete collection powkiddy.