google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyllideb Llywodraeth Cymru: £610m yn ychwanegol ar iechyd

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid a llywodraeth leol, Peter Fox: “O dan Lafur, mae Cymru’n amlwg ar chwâl, a dim ond y Ceidwadwyr Cymreig all fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu busnesau a theuluoedd sy’n gweithio’n galed.

“Efallai y bydd gweinidogion Llafur yn awyddus i sôn am y gyllideb hon, ond gadewch i ni beidio ag anghofio ei fod yn dod o £40b mewn codiadau treth a cherdyn credyd Canghellor newydd Llafur, tra bod pensiynwyr yn colli buddion hanfodol a ffermwyr yn cael eu gorfodi i chwalu ffermydd teuluol.”

Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan AS: “Mae cyllideb Llafur yn anuchelgeisiol, ac yn disgyn yn druenus o brin o’r hyn sydd ei angen i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru sydd mewn trafferthion.

“I lywodraeth leol, does dim digon yma o’i gymharu â’r hyn sydd ei angen i gwrdd â’r heriau cynyddol y mae cynghorau yn eu hwynebu.”

Ychwanegodd: “Rydym wedi cael cyllideb sydd ddim hyd yn oed yn darparu digon i atgyweirio’r toeau ar ein hysbytai.

“Mae Cymru yn dal i fod yn styc gyda’r setliad ariannol gwaethaf o unrhyw wlad ddatganoledig, heb ddim arwydd o newid fformiwla ariannu Barnett, a dim gweithredu ar y £4b sydd yn eiddo i’n gwlad o HS2 na datganoli Ystâd y Goron chwaith – sy’n hanfodol i fuddsoddiad teg mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ysgogi twf economaidd.”


Source link

Views: 2

See also  Six Nations 2026: Wales fans experience agony and hope after Scotland defeat

Check Also

Fire destroys Abercanaid bench for daughter who died from sepsis

The memorial burned down in the early hours of Tuesday morning and council workers were …

Rugby League: Wales suffer international defeat by Canada in Neath

Wales were beaten 14-0 by Canada in Neath as they count down to the Rugby …

Swansea City transfer news: Swans close in on deal for Motherwell’s Elijah Just

Swansea City are close to agreeing a deal to sign Motherwell’s New Zealand international winger …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime