google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Heddlu’n ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl gêm bêl-droed yng Ngwynedd

Advertisements

Dywedodd Nantlle Vale mai “siomedig iawn oedd gweld bod dau chwaraewr CPD Nantlle Vale wedi cael eu hanafu ar ôl y gêm drwy ymosodiad”.

Dywedodd y clwb fod y digwyddiad honedig wedi “tynnu sylw oddi ar yr achlysur, tydi o ddim yn dderbyniol i unrhyw chwaraewr droi fyny i gêm i chwarae pêl-droed a chael eu hanafu”.

“Tydi Clwb pêl-droed Nantlle Vale ddim yn esgusodi’r math yma o ymddygiad.

“Nid oes gan y clwb unrhyw sylwadau pellach gan fod y mater yn nwylo’r heddlu.”

Dywedodd Talysarn Celts eu bod yn “ymwybodol o ddigwyddiad mewn tafarn leol” yn dilyn y gêm.

“Rydym ar ddeall fod y mater wedi ei gyfeirio i’r heddlu. Mae’r clwb yn condemnio pob math o drais ac yn trin y mater hwn gyda’r difrifoldeb mwyaf.

“Er na ddigwyddodd y digwyddiad hwn ar dir y clwb, ymwneud ag aelodau’r clwb, nac o dan oruchwyliaeth y clwb, rydym yn cydweithio’n llawn a CPD Nantlle Vale â’r awdurdodau perthnasol ac yn cefnogi unrhyw gamau priodol.

“Nid oes lle i ymddygiad fel hyn yn ein cymdeithas. Rydym yn anfon ein cydymdeimlad a’n cefnogaeth lawn i’r sawl fu yn destun i’r digwyddiad.”

Fe gyhoeddodd CPD Nantlle Vale ddatganiad pellach yn diolch i bwyllgor Talysarn Celts am gysylltu â nhw “ac am y gefnogaeth i’r chwaraewyr”.

“Mae un peth yn glir, ein bod yn sefyll gyda’n gilydd ac nid ydym yn esgusodi unrhyw fath o ymddygiad treisgar gan unrhyw gefnogwr boed yn ystod y gêm neu ar ôl oddi ar y cae,” meddai eu datganiad.


BBC News

Views: 0

See also  Seb Davies: Wales lock joins Dragons from Cardiff

Check Also

Woman in tears over noise of supermarket fridges near her home

Judith Richards says the “industrial-scale noise” from the units has impacted residents’ lives. BBC News …

Senedd's offices set for major refurbishment work

The Senedd’s chief executive says it’s the most “cost-effective” option to BBC News Views: 0 …

Anglesey prepares to host Europe's largest travelling youth festival

The Urdd’s National Eisteddfod will be held on the island between 23 and 29 May. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonrank | free link building tool | automated seo backlinks.