google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfarwyddwr o Fôn yn derbyn enwebiad Primetime Emmy

Advertisements

Fe wnaeth ymosodiadau terfysgol Oklahoma City ar 19 Ebrill, 1995, achosi ymdeimlad o sioc ac arswyd ledled y byd. Lladdwyd 168 o bobl ac anafwyd 684.

Cafodd Timothy McVeigh ei ddyfarnu’n euog am y weithred, gyda gŵr o’r enw Terry Nichols yn euog o’i gynorthwyo. Dienyddwyd McVeigh yn 2001, ac fe gafodd Nichols ddedfryd o garchar am weddill ei oes.

Mae rhaglen ddogfen newydd, Oklahoma City Bombing: One Day in America, sy’n ymddangos ar Disney+ ac Hulu’n olrhain hanes yr hyn ddigwyddodd, drwy gyfweld ag unigolion oedd yno ar y diwrnod erchyll hwnnw.

Mae’r gyfres yn cynnwys tair pennod, ac mae wedi ei henwebu ar gyfer gwobr yn y Primetime Emmy Awards, yn y categori Outstanding Research: Documentary.

Rhywun a oedd yn gweithio ar y gyfres oedd y cyfarwyddwr Ceri Isfryn. Siaradodd Ceri ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ar ddydd Gwener, 22 Mai.

“Roedd hi’n stori yr oedden ni’n ymwybodol ohoni o’r blaen, ond dwi ddim yn credu mod i cweit wedi deall pa mor fawr oedd y digwyddiad, a’r ymosodiad cyntaf o’i fath yn America ar y pryd.

“Heddiw, ‘dan ni wrth gwrs, yn drist iawn, yn fwy ymwybodol o’r math yma o ymosodiad, ond ar y pryd roedd y sioc yn enfawr ac yn anodd ei gredu.”


BBC News

Views: 0

See also  Sarah Lianne Lewis yn ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Wrecsam

Check Also

Cinio rhost yn y bore i ddisgyblion sy’n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, y byddai’n hoffi gweld …

‘Uproar’ when children from England want Welsh education in Powys

Powys councillor James Gibson-Watt told the BBC: “As a county that borders a significant number …

Sul y Tadau: Y tad a’i ddau fab o Fangor sy’n caru snwcer

Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i’w tad am fod yn athro …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Aaa mush love. Learn more about troubleshooting wordpress.