google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Angen cydweithio’ i wella trafnidiaeth ar gyfer pobl ag anableddau

Advertisements

Mae trafnidiaeth yn bwnc mawr yn etholiad y Senedd ymysg pleidleiswyr, beth felly yw ymateb y pleidiau?

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod am wneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru “yn hygyrch i bawb” trwy weithredu’u cynllun Teithio i Bawb a’r cynllun Hawliau Pobl Anabl. Ychwanegodd eu bod yn bwriadu cyflwyno bathodyn las newydd i bobl a chyflyrau oes er mwyn “lleihau’r baich gweinyddol ar bobl anabl”.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y bydden nhw’n “gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gwelliannau yn system drafnidiaeth Cymru, bydd yn hybu hygyrchedd a diogelwch, yn cael eu cyflawni’n effeithiol”. Byddent yn “dileu rhwystrau i wasanaethau drwy sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed wrth ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau cyhoeddus Cymru”.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Reform ei fod yn “hanfodol bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bobl anabl”. Ychwanegodd y bydden nhw’n “rhoi cymorth i fusnesau ac unigolion i allu cyflogi mwy o bobl anabl”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod “gormod o bobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus”. Ychwanegon nhw: fod angen “cynnydd cyflymach a buddsoddiad go iawn” i sicrhau trafnidiaeth sy’n hygyrch i bawb.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw’n “symleiddio’r system ar gyfer addasu cartrefi a chynyddu taliadau uniongyrchol ar gyfer rhoi mwy o hyblygrwydd ac annibyniaeth i bobl”.

Mae’r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.


BBC News

Views: 0

See also  Keiran Williams: Centre signs new deal to remain with Ospreys

Check Also

Nations Championship: What Wales learned from Barbarians experience

Headliner North rolled back the years to provide the theatre on Saturday but it was …

Nations Championship: What Wales learned from Barbarians experience

Headliner North rolled back the years to provide the theatre on Saturday but it was …

Y gantores Phyllis Kinney ac awdurdod ar ganu gwerin wedi marw

Yn 2019 Dr Meredydd Evans (bu farw yn 2015) a’i weddw Phyllis Kinney a dderbyniodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime