google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd y gallai cynllun dychwelyd poteli gostio 50c y gwydr i gwsmeriaid

Advertisements

Disgrifiodd William Watkins, prif weithredwr cwmni Radnor Hills, y sefyllfa yng Nghymru fel “llanast llwyr”, gan rybuddio y byddai gwahaniaethau rhwng systemau ar y naill ochr i’r ffin yn creu anawsterau mawr i gynhyrchwyr.

“Rhaid i ni gael system sydd yr un fath ar y ddwy ochr i’r ffin,” meddai.

Rhybuddiodd Mr Watkins hefyd fod Cymru yn gyfran fach o farchnad diodydd ehangach y DU, sy’n golygu y gallai rhai cwmnïau benderfynu nad yw’n “werth chweil” cyflenwi rhai diodydd mewn poteli gwydr yma.

Cyn etholiad Senedd Cymru, roedd maniffesto Plaid Cymru yn addo bwrw ymlaen â “chynnwys gwydr pan fydd hyn yn ymarferol bosibl” yn y cynllun dychwelyd blaendal.

Ynghyd ag ymweliadau gan wleidyddion Plaid Cymru wrth ymgyrchu, dywedodd Mr Watkins ei fod wedi disgwyl ymateb “pragmatig” o’i gymharu â’r cynlluniau a ddaeth gan y llywodraeth Lafur flaenorol.

“Ro’n i wir yn obeithiol y bydden ni wedi gweld newid cyfeiriad llwyr,” meddai.

Ond honnodd fod “realiti dod i rym, a dod ar draws rhai safbwyntiau sefydledig iawn” yn y gwasanaeth sifil wedi golygu bod y llywodraeth newydd yn parhau ag agenda’r weinyddiaeth flaenorol.


BBC News

Views: 1

See also  Eamon O'Carroll: Scarlets recruit from rugby league for their new defence coach

Check Also

Nations Championship: What Wales learned from Barbarians experience

Headliner North rolled back the years to provide the theatre on Saturday but it was …

Y gantores Phyllis Kinney ac awdurdod ar ganu gwerin wedi marw

Yn 2019 Dr Meredydd Evans (bu farw yn 2015) a’i weddw Phyllis Kinney a dderbyniodd …

Cardiff’s National Museum Wales ‘discussing closure for repairs’

A workers’ union has said it is in “early discussions” about the potential closure of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime