google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Actor gyda ADHD yn uniaethu â’i chymeriad yn nrama Death Valley

Wrth sôn am ei gwaith fel actor, mae hi’n sylwi ar yr un math o bersonoliaeth ac yn gallu uniaethu â chymeriad Janie Mallowan.

Mae hi hefyd yn sôn pa mor bwysig oedd hi i fod wedi darganfod gwaith fel actor yn gwybod ei bod hi’n byw gyda ADHD.

“Fi’n credu efo Jainie, a be dwi’n rhannu gyda Jainie, fi’n gwbod fy mod i mor lwcus fy mod wedi ffeindio actio.

“Roedd y pethe fel bod yn siaradus a dod â lot o syniade yn yr ysgol yn rhywbeth positif.

“Be’ o’n i eisiau dangos gyda Jainie, yn enwedig yn yr ail gyfres, yw ei bod hi ddim yn delio’n dda iawn gyda paper work a sut mae hi’n gallu newid o un pwnc i’r llall.

“Mae’n rhan o’i chymeriad hi, ond beth o’n i ddim moyn gwneud oedd gwneud o’n sob story,” meddai.

Wrth edrych ar ei chyfnod yn yr ysgol, mae hi’n ddiolchgar iawn i un athrawes yn arbennig ym Mhenweddig am ei hymwybyddiaeth a’i hymdrechion i’w helpu.

“Os fi’n edrych yn ôl ar fy amser yn yr ysgol, mae bron stigma i’r ffaith bod fi methu gweithio fel oedd pobl eraill a dwi’n cofio roedd hynny yn brifo hyder fi ar y pryd.

“Dwi’n cofio siarad efo Pam John, sy’n athrawes ym Mhenweddig, a ‘naeth hi neud ei gorau glas i wneud yn siŵr fy mod i’n cael amser ychwanegol,” meddai.

Mae Gwyneth yn falch bod mwy o ymwybyddiaeth nawr i ADHD a chyflyrau niwro-amrywiol a’i bod hi wedi dod o hyd i waith fel actor ac yn gwneud y mwyaf o’i sgiliau oedd yn cael ei gweld yn yr ysgol fel methiant neu rywbeth negyddol.

Mae modd gwylio cyfres newydd Death Valley ar BBC iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 0

See also  Spirit of Caerphilly by-election could propel Plaid into government, says leader

Check Also

Nations Championship: What Wales learned from Barbarians experience

Headliner North rolled back the years to provide the theatre on Saturday but it was …

Nations Championship: What Wales learned from Barbarians experience

Headliner North rolled back the years to provide the theatre on Saturday but it was …

Y gantores Phyllis Kinney ac awdurdod ar ganu gwerin wedi marw

Yn 2019 Dr Meredydd Evans (bu farw yn 2015) a’i weddw Phyllis Kinney a dderbyniodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Mitsubishi 4g63 ralliart evo engine speedstar models.