google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged teulu i ‘fab, cariad a brawd poblogaidd’

Advertisements

Mae teulu y dyn 34 oed a gafodd ei ladd wedi gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Mathew Hardy o Bwllheli yn y fan a’r lle.

Wrth roi teyrnged iddo fe ddywedodd ei deulu: “Fel teulu mae ein bywydau ni wedi cael eu chwalu gan y drychineb o golli Mathew mor frawychus o sydyn.

“Does dim geiriau all ddisgrifio’r boen a’r galar ‘da ni’n ei deimlo.

“Roedd yn fab, cariad, brawd a ffrind mor boblogaidd i nifer, a bydd yn gadael bwlch ofnadwy o dywyll ar ei ôl.

“Roedd Mathew yn hynod o annwyl a hoffus, ac yng nghanol cyfnod mor gyffrous yn ei fywyd – yn symud i dŷ newydd a merch fach ar y ffordd.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a geiriau o gysur ar amser mor heriol a thrist.

“Gofynnwn yn garedig am amser a phreifatrwydd i ddygymod hefo’r galar.”


BBC News

Views: 2

See also  Pryd fydd y tywydd yn cynhesu?

Check Also

Cardiff’s National Museum closing is ‘realistic’ option, says boss

Richardson said if the National Museum Wales also closes, culture in Wales would not suffer …

What could Andy Burnham’s premiership mean for Wales?

A Welsh Labour source told BBC Wales that Welsh Secretary Jo Stevens and Welsh Labour …

Wales’ padel boom and why it’s here to stay

In the space of five years, Wales has gone from having no courts to having …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime