google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged teulu i ‘fab, cariad a brawd poblogaidd’

Advertisements

Mae teulu y dyn 34 oed a gafodd ei ladd wedi gwrthdrawiad ger Porthmadog nos Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Mathew Hardy o Bwllheli yn y fan a’r lle.

Wrth roi teyrnged iddo fe ddywedodd ei deulu: “Fel teulu mae ein bywydau ni wedi cael eu chwalu gan y drychineb o golli Mathew mor frawychus o sydyn.

“Does dim geiriau all ddisgrifio’r boen a’r galar ‘da ni’n ei deimlo.

“Roedd yn fab, cariad, brawd a ffrind mor boblogaidd i nifer, a bydd yn gadael bwlch ofnadwy o dywyll ar ei ôl.

“Roedd Mathew yn hynod o annwyl a hoffus, ac yng nghanol cyfnod mor gyffrous yn ei fywyd – yn symud i dŷ newydd a merch fach ar y ffordd.

“Hoffem ddiolch i bawb am eu caredigrwydd a geiriau o gysur ar amser mor heriol a thrist.

“Gofynnwn yn garedig am amser a phreifatrwydd i ddygymod hefo’r galar.”


BBC News

Views: 2

See also  'Mor ddibynnol ar roddion wrth i gost addasu adeilad ddyblu'

Check Also

Hosepipe ban for parts of Wales likely after record demand, warns Welsh Water

A hosepipe ban is likely to be introduced to around 33,000 properties in parts of …

JD Vance says Caernarfon castle was ‘coolest thing I’ve ever seen’

JD Vance was “blown away” by Caernarfon Castle during a visit with his wife to …

Athro yn cael ei wahardd o ysgol yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod athro o ysgol yn y sir wedi cael ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
There are two main types of pain relief : nociceptive and neuropathic.