google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Athro yn cael ei wahardd o ysgol yng Ngwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod athro o ysgol yn y sir wedi cael ei wahardd.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Heddlu’r Gogledd bod dyn o Borthmadog wedi ei arestio ar amheuaeth o gwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas rywiol ond pwysleisiodd y cyngor na allan nhw gadarnhau na gwadu’r wybodaeth honno.

Mae’r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau Heddlu’r Gogledd yn parhau.

Dywedodd yr heddlu nad oes modd iddyn nhw wneud sylw pellach am fod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Ychwanegodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad: “Ni fyddai’n briodol i’r Cyngor na’r ysgol dan sylw wneud sylwadau pellach nes bod yr holl ymchwiliadau perthnasol wedi’u cwblhau.

“Gallwn gadarnhau bod yr holl weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol yn cael eu dilyn.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Newport man jailed for trapping woman and dog under car in crash

Check Also

Dafydd Owain wins Welsh Music Prize 2026 for second album

Singer Dafydd Owain has won the 2026 Welsh Music Prize with his album Ymarfer Byw. …

Dafydd Owain yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026

Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sy’n agored i albymau o bob genre, ei sefydlu yn …

Rhondda father ‘crumbled’ when daughter died after fall at school

Aaron is part of a men’s bereavement campaign run by the charity 2wish, external, which …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime