google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llafur yn dangos ‘diffyg parch at arweinyddiaeth Eluned Morgan’

Advertisements

Ychwanegodd yr Athro Richard Wyn Jones fod y Blaid Lafur, gan ystyried y system bleidleisio newydd, angen meddwl am eu hymgyrch yn ofalus iawn os am lwyddo ym mis Mai.

“Mae Eluned Morgan wedi penderfynu sefyll yn Ceredigion-Penfro,” meddai. “Mae Llafur angen tua 70% yng Ngheredigion, ma’ hwnna’n dalcen caled iawn, iawn.

“Taswn i eisiau cael Eluned Morgan wedi’i hethol byswn i eisiau ‘neud yn siŵr fod gen i ymgeisydd Llafur o bob poblogaeth, o bob ardal lle mae ‘na bobl yn byw ynddo fo, sydd â rhyw fath o broffil lleol gan obeithio bo’ nhw gyd yn casglu ‘chydig o gannoedd o bleidleisiau Llafur, yn y gobaith fod o’n ddigon i godi Eluned Morgan i mewn i’r Senedd.

“Dydy hynny ddim wedi digwydd, a dwi wedi gweld yr enwau sydd ganddyn nhw ar gyfer yr etholaeth yna, a dydyn nhw ddim yn ddaearyddol yn gweithio yn y ffordd dwi wedi awgrymu dylia fo weithio,” meddai.

“Nid yn unig ydi o’n dangos diffyg parch ati hi ond mae o’n niweidio gobeithion hi o gael ei hethol, a gobeithion y Blaid Lafur yn fwy cyffredinol.”

Mae’r Blaid Lafur wedi cael cais am ymateb.


BBC News

Views: 0

See also  Cardiff Rugby administration news shocks fans

Check Also

Cardiff’s National Museum closing is ‘realistic’ option, says boss

Richardson said if the National Museum Wales also closes, culture in Wales would not suffer …

What could Andy Burnham’s premiership mean for Wales?

A Welsh Labour source told BBC Wales that Welsh Secretary Jo Stevens and Welsh Labour …

Wales’ padel boom and why it’s here to stay

In the space of five years, Wales has gone from having no courts to having …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime