google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymgeisydd Plaid Cymru yn colli cefnogaeth y blaid

Mae Plaid Cymru yn dweud na fyddan nhw’n cefnogi eu hymgeisydd yn etholaeth de Caerdydd a Phenarth yn sgil sylwadau gafodd eu gwneud ar-lein.

Mewn datganiad, dywedodd y blaid bod Sharifah Rahman wedi gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn trafod y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol “sydd ddim yn cyd-fynd â safbwynt na gwerthoedd Plaid Cymru”.

Gan fod hyn wedi digwydd mor agos at ddiwedd yr enwebiadau, mae’n golygu y bydd ei henw yn aros ar y papur pleidleisio fel ymgeisydd swyddogol ar ran Plaid Cymru, ond fydd y blaid ddim yn ei chefnogi.

Dywedodd llefarydd: “Mae Plaid Cymru yn gyson wedi condemnio gweithredoedd terfysgwyr Hamas ar 7 Hydref yn ogystal â’r cyrchoedd awyr ofnadwy gan Lywodraeth Israel.

“Ry’n ni’n atgyfnerthu ein galwadau am gadoediad ar unwaith.

“Fe fydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu am heddwch a datrysiad dwy wladwriaeth – gan gynnwys cydnabod tiriogaeth Balesteinaidd, a dyfodol heddychlon i Balesteiniaid ac Israeliaid.

“Ry’n ni’n condemnio unrhyw ragfarn a hiliaeth, gan gynnwys gwrth-semitiaeth ac Islamoffobia.”

Mae BBC Cymru wedi methu â chysylltu gyda Ms Rahman i ofyn am sylw.


Source link

Advertisements

See also  'Llywodraeth Cymru ddim yn credu bod y celfyddydau yn bwysig'

Check Also

New Christmas special The Baddies features Gavin and Stacey stars

A new animated adaptation of a popular picture book to be aired over the Christmas …

Louis Rees-Zammit: Wales and Bristol wing calls for the end of use of artificial pitches

Meanwhile, it emerged over the weekend that Bristol director of rugby Pat Lam did not …

Australia vs England: Jacob Bethell returns as Thomas Rew and Eddie Jack get call-ups

For the ODIs, Jofra Archer is back in the pace attack after being rested for …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime