google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dim ymchwiliad cyhoeddus i Barc Cenedlaethol Glyndŵr am y tro

Ni fydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen ag ymchwiliad cyhoeddus i Barc Cenedlaethol Glyndŵr am y tro.

Dywedodd y gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a’r cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, ei fod yn “gwyro o blaid peidio â chynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus”.

Bydd peidio â bwrw ymlaen ag ymchwiliad lleol cyhoeddus yn golygu nad oes Parc Cenedlaethol newydd wedi’i sefydlu ar hyn o bryd.

Cyn gwneud penderfyniad terfynol, mae Dafydd Trystan Davies yn “bwriadu rhoi cyfle byr i bawb sydd â diddordeb yn y cynnig hwn wneud sylwadau pellach am fy nghasgliad dros dro”.

Mae’r llywodraeth nawr yn gwahodd sylwadau pellach dros y pedair wythnos nesaf, cyn penderfyniad terfynol.

Mae polisi dros barciau cenedlaethol yn gyfrifoldeb i’r gweinidog dros wydnwch gwledig, Llŷr Gruffydd, ond fe anogodd ef bobl i wrthwynebu cynllun Glyndŵr cyn i Blaid Cymru ddod i rym, felly trosglwyddwyd y penderfyniad i’r gweinidog dros effeithiolrwydd llywodraeth a’r cyfansoddiad

Dywedodd Dafydd Trystan Davies, gan gyfeirio at y pum awdurdod lleol yn ardal y Parc Cenedlaethol arfaethedig, “fy marn dros dro yw bod gwerth mewn parhau i gadw ffocws cryf ar alluogi’r dynodiadau a’r partneriaethau presennol hynny i gyflawni ar gyfer natur, hinsawdd, treftadaeth ddiwylliannol, hamdden a chymunedau lleol, tra’n parhau i fynd ar drywydd yr amcanion a nodwyd drwy broses ddynodi Glyndŵr drwy fecanweithiau eraill.”

“Er enghraifft, rydym yn cymryd camau ymarferol i adfer natur ac adeiladu gwytnwch hinsawdd ar draws y gogledd-ddwyrain.

“Drwy raglen genedlaethol mawndir Llywodraeth Cymru, cyflawnwyd gwaith adfer sylweddol o fewn tirwedd genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys safle rhostir Llandegla sydd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gan ddod â thua 120 hectar o fawndir i gyflwr mwy ffafriol ac adferol dros y pedair blynedd diwethaf.”


BBC News

Advertisements

See also  £120m fund to cut wait times to be 'spent better', says health minister

Check Also

‘Rhaid hyrwyddo Sycharth, llys Owain Glyndŵr, yn well’ – gweinidog

Mae’r gweinidog diwylliant wedi gofyn i swyddogion ystyried sut y gellir hyrwyddo Sycharth, llys hynafol …

Cwis Pontydd Cymru – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

‘Hen bryd i’r Gymraeg gael cyfartaledd’ o ran oriau darlledu newyddion

Yr wythnos hon mae Cymdeithas Yr Iaith wedi cyfarfod â phenaethiaid BBC Cymru i leisio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime