google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y Rhyl: Troseddu ‘i lawr 14%’ ar ôl arestio 180 mewn ymgyrch newydd

Advertisements

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Owain Llewellyn bod y newid mewn strategaeth yn hollbwysig, “neu byddwn ni’n delio hefo’r un problemau yn y gymuned y flwyddyn nesaf, ac mewn pump neu ddeg mlynedd”.

“Mae yn newid cyfeiriad, cydnabod bod rhai pobl sy’n gaeth, ac hyd yn oed rhai o’r gwerthwyr cyffuriau ar lefel isel yn bobl sy’n agored i niwed,” meddai.

Ychwanegodd bod angen “cadw’r pwysau” ar dargedu’r rhai sy’n achosi niwed yn y gymuned, ac y byddai swyddogion yn parhau ar batrôl yng ngorllewin Y Rhyl.

“Mae lot o hyn yn dod i lawr i waith heddlua syml,” meddai.

“Mae am fod allan yn y gymuned, sicrhau bod pobl yn gweld swyddogion o gwmpas ac adeiladu perthnasau.

“Ond tu ôl i’r llen, rydyn ni hefyd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddara’ i gadw ar ben y grwpiau troseddol sy’n dod â chyffuriau i’r dref.”


BBC News

Views: 0

See also  Ramadan: Ryseitiau Elan Dafydd i dorri'r ympryd

Check Also

At-home body piercing kits leading to deformities, expert says

In the UK, there is no minimum age for ear piercings carried out by a …

Eight charged in 'grooming gang' probe and drug-driver kills cyclist, 72

A review of the front page stories from newspapers in Wales. BBC News Views: 3 …

Plaid first minister promises cooperation after budget defeat

Welsh Labour leader Ken Skates said all parties should use the summer break to reflect …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime