google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mair Wynn Hughes: Dathlu cyfraniad oes i lenyddiaeth Gymraeg

Advertisements

Yn ôl Mair, hap a damwain oedd iddi ddechrau ysgrifennu llyfrau o gwbl, meddai: “O’n i’n athrawes ar ddosbarth o blant pump i saith ym Mhentraeth, ac ar ddiwedd bob p’nawn, fyddai ‘na stori.

“Mae hyn yn y ’50au, ac ychydig iawn o lyfrau Cymraeg ar gyfer plant yr oed yna oedd yna. O’n i wedi meddwl am y cymeriad Sioni Sbonc, ond do’n i ddim wedi ysgrifennu nhw i lawr; o’n i’n deud y stori a do’n i’m yn gwybod lle odd o’n mynd.

“O’dd y plant yn hoff iawn o Sioni Sbonc, ac oedden nhw’n gofyn weithiau ‘newch chi ddeud y stori ‘na am Sioni Sbonc yn mynd i’r dre?’. Wel, do’n i’m yn ei chofio hi’n iawn, nago’n!

“O’n i’n cychwyn ac ella’n deud fod gan Sioni drowsus melyn, a hogyn bach yn codi ei law a deud ‘Plîs Miss, trowsus glas oedd ganddo fo tro dwytha!’.

“Ar gownt hynny, fuo rhaid i mi ysgrifennu’r storïau i lawr er mwyn eu cofio nhw. A dyna ddechrau ar y sgwennu.”

Mae hi bellach wedi ennill gwobr Tir na n-Og bedair gwaith ac mae ei llyfrau, fel O’r Tywyllwch, Llinyn Arian a Ragi Racsan yn ffefrynnau ar silffoedd plant ledled Cymru.


BBC News

Views: 1

See also  Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar Ddiwrnod Nadolig

Check Also

Wrexham man sent on youth training scheme by Department for Work and Pensions in error

A man in his 50s “mistakenly placed” on a training programme for 16-30 jobseekers has …

Dau yn y llys wedi’u cyhuddo o fasnachu pobl ifanc i Wlad Thai

Mae’r ddau ddyn ifanc yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai ac yn cael …

Ysgol Charlotte Church yn wynebu cau ar ôl agor heb ganiatâd cynllunio

Nod The Awen Project yw rhoi amgylchedd i blant “lle maen nhw’n teimlo eu bod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
computer hardware – complete guide for beginners (form 1 computer studies). elfbar elfa refillable pod (2x leer pod) mesh coil.