google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y llenor a’r prifardd Eigra Lewis Roberts wedi marw yn 86 oed

Mae’r llenor a’r prifardd, Eigra Lewis Roberts, wedi marw yn 86 oed.

Wedi’i geni ym Mlaenau Ffestiniog, ysgrifennodd ddegau o gyfrolau yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu.

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Sir Ffestiniog a Choleg y Brifysgol ym Mangor ac ar ôl graddio, bu’n dysgu am gyfnod yng Nghaergybi a Llanrwst cyn troi at ysgrifennu.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974.

Cafodd wobr am ‘nofel agored’ yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon gyda’i nofel gyntaf, ‘Brynhyfryd’, pan oedd ond yn 20 oed a hi oedd awdures y gyfres deledu boblogaidd ‘Minafon’ a gafodd ei ddarlledu yn y 1980au.

Yn 1995 derbyniodd wobr BAFTA Cymru am y sgriptiwr gorau.

Yn 2006, ar ddiwrnod ei phen-blwydd, enillodd ei choron gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am ddilyniant o gerddi am fywyd stormus y bardd Sylvia Plath.


BBC News

Advertisements

See also  Dyfarnu yn y Gemau Olympaidd yn 'gwireddu breuddwyd'

Check Also

Man bailed over 1993 unsolved Tooze murders faces no further action

Their daughter’s boyfriend Jonathan Jones was found guilty of their murders and sentenced to life …

World Rally Championship: Oliver Solberg turns up pressure on leader Elfyn Evans in Sardinia

The rally continues with a further 13 stages before the winner – and the 2026 …

Elite Ice Hockey League: Cardiff Devils seek home lift-off for title bid

The start of the 2026-27 season has also been hit by three players sustaining long …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime