google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyfarnu yn y Gemau Olympaidd yn ‘gwireddu breuddwyd’

Mae cael ei ddewis i ddyfarnu yng nghystadlaethau rygbi’r Gemau Olympaidd wedi “gwireddu breuddwyd” i Ben Breakspear o Gwm Cynon.

Fe fydd Ben, 26, yn dyfarnu’r gemau saith bob ochr ym Mharis yn yr haf.

Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Gwener dywedodd Ben bod y cyfan wedi bod yn “bach o sioc” ond ei fod yn falch ei fod o’r diwedd cael rhannu’r newyddion anhygoel.

“I gael yr e-bost ‘na i ddweud bo’ fi ar y ffordd i Baris – mae e dal heb sinko mewn eto,” meddai Ben.

“Dwi dal yn prosesu popeth sy’n mynd ymlaen. Mae’n wir anrhydedd a dwi’n edrych ymlaen i’r haf.

“Mae wir wedi bod yn freuddwyd i gymryd rhan. Yn 2012 rwy’n cofio gwylio’r Gemau Olympaidd yn Llundain a fi methu credu bo’ fi eleni yn cael cymryd rhan.”


Source link

Advertisements

See also  PCC elections: Who is standing in Wales' police elections?

Check Also

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Rhyddhau gyrrwr o dan ymchwiliad ar ôl marwolaeth bachgen yn Sir Conwy

Ddydd Gwener cafodd blodau a theganau eu gosod ger safle’r gwrthdrawiad, fel teyrnged i’r bachgen …

Dolly Parton i ymddangos ar fersiwn newydd o Jolene – yn Gymraeg

Mae’r fideo hefyd yn dangos Jada gyda Dolly yn cytuno i ganu ar y trac, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime