Ychwanegodd Ms Moses ei bod yn wych gweld pobl yn canu ar blafform gorsaf Pontypridd ac yna ar y trên.
“Roedd hynny yn ychwanegu at brofiad eisteddfodwyr a ddewisodd ddod ar y trên,” meddai.
Nos Sadwrn roedd Dafydd Iwan yn un o’r rhai a fu yn perfformio ar lwyfan y Maes ac yn y Pafiliwn roedd y perfformiad cyntaf o’r opera roc Nia Ben Aur.
Yr Oedfa oedd y digwyddiad cyntaf yn yr Eisteddfod fore Sul – digwyddiad, medd y trefnwyr, a oedd yn gyfle i ddathlu cyfraniad rhai o gymeriadau Rhondda, Cynon a Thaf y gorffennol.
Yn y Pafiliwn ddydd Sul mae’n ddiwrnod y gystadleuaeth Rhuban Glas offerynnol i rai o dan 16 a phrynhawn Sul bydd 14 o gorau newydd yn perfformio mewn cystadleuaeth newydd sbon.
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!