google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

‘Taid a’i dractor yn darganfod cadwyn o’r Oes Haearn ar Ynys Môn’

Advertisements

Mewn rhaglen newydd ar BBC Radio Cymru, Trysorau o’r Mawn, mae Haf Roberts yn cyfarfod wyres William Owen Roberts, Delyth Owen.

Delyth fu’n egluro sut y daeth ei thaid ar draws hen gadwyn haearn wrth weithio ar y mawndir â thractor.

“Be’ nath ddigwydd wrth garthu’r mawn oedd nath y tractor fynd yn styc, oedd y dynion wedi trio gymaint o wahanol betha’ i dynnu’r tractor yma allan, dim byd yn gweithio, a wedyn oedd Taid yn cofio bod tsiaen ar un ochr o’r mwd, a ddeudodd o wrth y bois ‘Triwch hwn de!’

“Ar ôl clymu’r gadwyn i’r tractor tynnwyd y tractor yn rhydd. Ond roedd gan William Owen Roberts deimlad fod yr hen gadwyn yma’n un go arbennig.

“Oedd Taid yn gwybod fod rhywbeth pwysig am y tsiaen.

“Yn syth ar ôl cael y tractor yn rhydd, aeth o ar ei feic i’r swyddfa gyda’r tsiaen ar ei handlebars. Dyma fo’n dweud wrth swyddogion RAF (yn Saesneg siŵr o fod), ‘Dwi’n meddwl fod hwn yn rili pwysig’.

“Fe dynnodd lun efo pensel o’r gadwyn a gyrru fo lawr at Cyril Fox, curadur yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.”


BBC News

See also  Wales U21: Charlie Crew, Kai Andrews and Gabriele Biancheri in squad for Belarus

Check Also

Dau ffrind wedi marw yn Eryri wrth fynydda mewn ‘amodau eithafol’ – cwest

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Lloyd, o adran safonau proffesiynol Heddlu’r Gogledd, er bod yr …

Dragons under pressure in URC after avoiding Welsh Rugby Union cut

Dragons will chase on-field progress in yet another season that will be played amid off-field …

John Mousinho: Portsmouth boss ‘furious’ over Krystian Bielik incident account

Portsmouth head coach John Mousinho says he was “absolutely furious” at the position he says …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime