google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

O Ben Llŷn i Broadway: ‘Parti Priodas’ yn cydio yn America

Blwyddyn nesaf mi fydd dilyniant i’r sioe, sef Y Te Angladd, sy’n “tyneru rhywfaint ar y tristwch”, meddai Gruffudd.

Gyda tua 200 o bobl yn gwylio’r sioe yn Massachusetts ac yn Efrog Newydd, mae Gruffudd yn falch i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol – ond wrth gwrs mae pob cynulleidfa yn wahanol: “Mi benderfynwyd yn eitha’ hwyr yn y dydd i dynnu rhywfaint o’r rhegfeydd allan o’r isdeitlau.

“Mi oedd ‘na ychydig o boeni fod hyn naill ai ddim cweit yn addas i Gymry cymanfa ganu gogledd America – efallai bod nhw ychydig bach mwy ceidwadol.

“Ond mi oedd ymateb da iawn. Mi nesh i gyfarfod llwyth o bobl ddifyr, rhai pobl oedd wedi magu yng Nghymru ac wedi symud i America’n ddiweddarach, rhai pobl oedd eu teidiau neu neiniau nhw wedi dod o Gymru.

“Roedd nifer ohonyn nhw yn dysgu Cymraeg ar-lein, nifer ohonyn nhw yn gwylio rhaglenni teledu S4C ar-lein. Felly oedd hynna’n hyfryd iawn.

“Ac wedyn ar ôl y sioe, mi oedd yna gig Bryn Fôn, oedd yn wych cael gwrando ar y clasuron yng nghanol America.”


BBC News

Advertisements

See also  Cardiff gig announced by legendary singer

Check Also

Lidl signs at Nottinghamshire store feature Welsh translation

Supermarket chain Lidl has replaced car park signs wrongly installed at a store in Nottingham …

Ystyried uno dwy feddygfa yn Sir Gâr ‘ar ôl bron i flwyddyn o ansicrwydd’

Yn ôl y bwrdd iechyd, byddai staffio’n cael ei reoli ar draws Meddygfa Minafon, meddygfa …

Nith Dolly Parton am ddysgu Cymraeg ar ôl canu gyda Bronwen Lewis

Mae Bronwen yn gobeithio y bydd y fersiwn ddwyieithog yma o Jolene yn ysbrydoli mwy …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime