google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Wylfa: ‘Cyfle i ni na’th orfod gadael yr ynys i ddod adra’

Advertisements

Mae’r ddau nawr yn rhan o ddatblygiad Hinkley Point C, sef y safle ar gyfer atomfa fawr, draddodiadol newydd.

“Yng Ngwlad yr Haf ar y funud chi’n sôn am 15,000 o bobl ar y safle jyst i adeiladu’r orsaf newydd, cyn iddyn nhw ddechrau rhoi’r offer mewn i redeg yr orsaf. Felly os chi’n meddwl am 15,000 o bobl, mae hynny’n fwy na unrhyw bentref bach sydd ar Ynys Môn, felly mae’r raddfa yn anferth,” meddai Keiran.

Mae’r cynllun ar gyfer safle Wylfa yn llai o faint na’r safle yng Ngwlad yr Haf. Ond mae Sion dal yn rhagweld effaith cadarnhaol ar yr economi leol.

“Ar y safleoedd bach modiwlar, 3,000 o weithwyr fydd ar y safle’n adeiladu a 900 swydd llawn amser ar ôl hynny,” meddai.

“Mi fydd sawl swydd wahanol yn dod i Ynys Môn, fel coginio, bysiau newydd – dyna ni wedi gweld lawr yng Ngwlad yr Haf. Maen nhw ‘di creu cwmni newydd jyst i gael pobl i’r safle ac yn ôl.”

Mae’r ddau yn gobeithio bydd y safle newydd yn galluogi iddyn nhw ddod yn ôl i’r ardal i weithio.

“Mae fe’n rhywbeth dwi ‘di eisiau neud ers gadael, eisiau dod ‘nôl. Mae yna dal flynyddoedd tan mae ‘na rywbeth yn mynd i fod ar y safle ei hun, ond mae’n bwysig dechrau ar y gwaith nawr,” meddai Kieran.

Ychwanegodd Sion, “Sa’n neis cael symud adra. Dyna oedd y cynllun, aros i weithio yng ngogledd Cymru.”


BBC News

Views: 0

See also  Criw o Landysul yn helpu merched mewn wardiau iechyd meddwl

Check Also

‘Rhaid gwneud rhywbeth’ i warchod plant ar-lein – Prif Weinidog Cymru

Ond does dim awgrym y bydd y llywodraeth yn gorfodi ysgolion i wahardd ffonau symudol. …

‘Dwi’n gynnyrch yr Urdd mewn cymaint o ffyrdd’ – Rhun ap Iorwerth

“Mae’n gymaint o anrhydedd yn gyntaf i fod mewn Eisteddfod dan haul fel hyn yn …

Teyrnged i ymgyrchydd canser a'r fam 'fwyaf caredig, llawn cariad a chryfder'

Ymgyrchydd o Ynys Môn sydd wedi’i disgrifio fel “y person mwyaf caredig, llawn cariad a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.