google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymgeisydd Reform a gamodd yn ôl dros lun saliwt i gynghori’r arweinydd

Advertisements

Ar ôl i’r llun ddod i’r amlwg yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Reform eu bod yn dal i’w gefnogi ac nac oedden nhw’n “fodlon diystyru pobl am byth oherwydd camgymeriadau a wnaethon nhw pan oedden nhw’n ifanc”.

Dywedodd eu harweinydd, Nigel Farage, bryd hynny mai dynwared Basil Fawlty o raglen Fawlty Towers oedd Edwards, gan ychwanegu nad oedd yn cymeradwyo’r peth.

Ond dyddiau yn ddiweddarach dywedodd llefarydd i’r blaid bod Edwards wedi rhoi gwybod iddyn nhw ei fod yn camu i lawr, “gan nodi problemau gyda’i iechyd meddwl”.

Yn ôl Reform, cafodd y llun ei dynnu yn 2019. Nid yw’n glir ble y cafodd ei dynnu ac mi gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol gan Nation.Cymru.

Dywedodd Edwards cyn camu i lawr fod y llun yn “edrych yn wael a gellid ei gamddehongli”, ac mai dynwared y pêl-droediwr Wayne Hennessey oedd yn ei wneud.

Cafwyd Hennessey yn ddieuog yn 2019 o wneud y saliwt sarhaus mewn digwyddiad wrth i Crystal Palace ddathlu buddugoliaeth.

Roedd Edwards yn gynghorydd arbennig i gyn-Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, rhwng Tachwedd 2022 a Hydref 2023.


BBC News

Views: 0

See also  S4C settles with second former executive

Check Also

Herbie Williams: Swansea City great and ex-Wales international dies aged 85

Swansea City great and former Wales international Herbie Williams has died aged 85. After joining …

Christian Doidge: Newport County sign Welsh striker after Forest Green Rovers exit

Doidge returns to Wales having played for Cwmbran Celtic, Croesyceiliog, Barry Town and Carmarthen Town …

‘Dylid fod wedi gwneud mwy i osgoi cau Ysgol y Garreg, Llanfrothen’

Mae rhiant sydd â phlentyn mewn ysgol sy’n cau am ei bod ag ond dau …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... Fishing boat transport.