google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Un o bob 20 sy’n medru’r Gymraeg byth yn ei siarad – arolwg

2bc89910 1f65 11f0 b265 abe347419ae3.jpg

Mae un o bob 20 o bobl yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg byth yn gwneud hynny.

Dyna’r awgrym o’r data am y Gymraeg o’r arolwg blynyddol o’r boblogaeth (ABB).

Dywedodd 42,800 o bobl eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu, sef 5.1% o bobl dair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl yr ABB.

Yn y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024, yn ôl yr ABB roedd 27.4% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Dyma’r ganran isaf i’w chofnodi ers dros wyth mlynedd, sy’n cyfateb i oddeutu 843,500 o bobl.

Mae’r amcangyfrif diweddaraf tua 1.8 pwynt canran yn is na’r flwyddyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, pan amcangyfrifwyd fod 29.2% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Yn ôl prif weithredwr Dyfodol i’r Iaith, Dylan Bryn Roberts, “yr hyn sy’n glir, ac rydyn ni’n gwybod ers blynyddoedd lawer, yw nad oes fawr o gyfle gan lawer o siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith mewn cymunedau Saesneg-yn-bennaf neu wrth eu gwaith”.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cymryd ystod o gamau i gyflawni ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’u Cymraeg.

“Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth i hybu addysg Gymraeg, gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed, gweithio i gynnal ein cymunedau Cymraeg eu hiaith, a datblygu technoleg Gymraeg.”


BBC News

Advertisements

See also  Wales rugby: Bath prop Archie Griffin hopes he can make three his magic number

Check Also

Claudia Winkleman yn darllen stori gan Huw Aaron cyn The Celebrity Traitors

Felly pam bod y rhaglen i blant, Bedtime Story, sy’n gwahodd gwahanol sêr a wynebau …

Paul Raynor: Bristol Rovers assistant reveals bowel cancer diagnosis

Bristol Rovers assistant head coach Paul Raynor has been diagnosed with bowel cancer. The 60-year-old …

URC: Dragons captain Ben Carter and Scarlets fly-half Sam Costelow return for Welsh derby

Dragons: Anderson; Dyer, Inisi, Owen, Tuitavuki; de Beer, Williams; Martinez, Dee, Hunt, S Davies, Carter …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime