google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Treth ymwelwyr i gefnogi digwyddiadau mawr – arweinydd Caerdydd

Advertisements

Dywedodd Steven Hesketh, prif weithredwr Savvy Hotels ac is-gadeirydd BID lletygarwch Lerpwl, fod y dreth wedi’i chyflwyno oherwydd ei bod yn “ddinas fywiog sy’n cael ei thanio gan ddigwyddiadau” ac yn dibynnu’n sylweddol ar sectorau hamdden a thwristiaeth.

“Ni allwch ddod â digwyddiadau ar raddfa fawr i ddinas heb iddo gostio arian sylweddol,” meddai.

“Mae’r busnesau wedi gorfod dod at ei gilydd, creu ardal gwella busnes sy’n eu galluogi i roi cronfeydd tuag at ddigwyddiadau mawr, ac i’n helpu i lenwi ein hystafelloedd.”

Dywedodd Mr Hesketh fod y cynllun, sydd wedi codi ardoll ar ymwelwyr ers mis Mehefin, wedi cael derbyniad da.

“Mae pobl yn deall ein bod mewn dinas ryngwladol. Mae Lerpwl yn frand mor adnabyddus yn fyd-eang.

“A waeth ble rydych chi’n teithio yn y byd nawr – Las Vegas, Paris ac ati – mae’r holl ddinasoedd mawr yma yn codi rhyw fath o dreth neu ardoll.”

Gyda Chaerdydd yn debygol o fod y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ardoll ymwelwyr, bydd gan ddarparwyr llety a chynghorau eraill ddiddordeb mawr yn y camau nesaf.


BBC News

Views: 0

See also  Bwriad i ddod â chynllun cymorth bronfwydo i ben yn 'drasiedi'

Check Also

Welsh language policy has been misunderstood, says council

Councillors have criticised “negative” press reports, arguing the new policy will help staff to “upskill”. …

Sylw ‘Welsh lad?’ Arron Banks yn hiliol, yn ôl ymgeisydd Reform

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd sylw Arron Banks yn hiliol, ond mae Farage …

Chwaraeon y penwythnos: Sut wnaeth timau Cymru?

Gemau olaf cynghrair bêl-droed Lloegr, ffeinal gemau ail gyfle’r Cymru Premier a rownd gynderfynol Cwpan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
biolinker marketplace | smart match products & earn from every sale.