google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder bod pentref yn troi’n ‘ynys’ ynghanol paneli solar

Dywedodd Reform UK: “Am yn llawer rhy hir mae llywodraethau Llafur olynol, wedi’u cefnogi gan Blaid Cymru, wedi anwybyddu barn trigolion lleol ac wedi cael obsesiwn gyda thargedau sero net.

“Bydd Reform yn gwahardd ffermydd solar newydd, gan ddefnyddio pwerau galw-mewn gweinidogol i roi terfyn ar y difrod sy’n cael ei wneud i gymunedau a’n tir ffermio.”

Dywedodd Plaid Cymru fod prosiectau adnewyddadwy yn allweddol i wneud Cymru yn “genedl ynni annibynnol”.

“Byddwn yn mynnu mwy o berchnogaeth gymunedol ar brosiectau ynni fel amod allweddol ar gyfer cael caniatâd, a sicrhau bod trethi busnes ar ffermydd gwynt a solar yn cael eu cadw yn yr awdurdodau lleol lle maen nhw wedi’u lleoli, tra hefyd yn amddiffyn tir amaethyddol o ansawdd uchel rhag cael ei golli i ddatblygiadau solar gormodol ar raddfa fawr.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo gosod moratoriwm ar “ddatblygiadau solar ar raddfa ddiwydiannol i amddiffyn cefn gwlad”, tra’n sicrhau bod prosiectau yn arwain at fudd i gymunedau, ac yn cael eu cynllunio yn well.

“Rydyn ni’n cydnabod y rôl bwysig y gall ynni adnewyddadwy ei chwarae, ond yn rhy aml mae pobl leol yn teimlo bod penderfyniadau yn cael eu gosod arnyn nhw heb ystyriaeth briodol.”

Dywedodd Llafur Cymru y byddai ynni glân sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn denu swyddi medrus ac yn golygu biliau ynni is.

“Fe wnaethon ni osod targed sy’n ymrwymiad cyfreithiol i ateb 100% o’r galw am drydan trwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Byddwn yn sicrhau bod prosiectau ynni adnewyddadwy o fudd i’r cymunedau sy’n eu cynnal, a’u bod yn gweithio i amddiffyn Cymru rhag marchnadoedd ynni ansefydlog byd-eang.”

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae angen ynni glân ar Gymru, ond ar hyn o bryd mae’n teimlo’n ddi-drefn, gyda Llywodraeth Cymru yn methu â chynllunio ac yn gadael cymunedau wedi’u cyfyngu tra bod prosiectau’n cael eu cymeradwyo”.

“Mae ffordd well; canolbwyntio ar ynni gwynt a llanw ar y môr, gyrru ynni solar ar doeau cartrefi ac adeiladau, a gweithio gyda chymunedau, nid yn eu herbyn, wrth gefnogi ffermwyr i gynhyrchu eu hynni eu hunain a chadw’r buddion yn lleol.”

Dywedodd Plaid Werdd Cymru eu bod yn galw am symud tuag at ynni adnewyddadwy yn gynt a “system ynni glân, diogel, gwydn ac sy’n eiddo i’r gymuned, sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd wrth leihau tlodi tanwydd a chreu swyddi medrus ledled Cymru”.




BBC News

Advertisements

See also  Pryder y bydd mwy o lifogydd os yw ffrwydradau chwarel yn parhau

Check Also

Everything you need to know as Cardiff Half Marathon returns

There are warnings of travel disruption and road closures as 30,000 runners are expected to …

United Rugby Championship: The Welsh talking points as Cardiff and Dragons start strongly

Cardiff have claimed nine points from wins against Scarlets and Zebre but their programme will …

World Grand Prix: Luke Humphries beats James Wade to secure final showdown with Gerwyn Price

World number two Luke Humphries secured his place in the World Grand Prix final with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime