google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Sylw ‘Welsh lad?’ Arron Banks yn hiliol, yn ôl ymgeisydd Reform

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd sylw Arron Banks yn hiliol, ond mae Farage a’i ddyn yng Nghymru, Dan Thomas, yn dal i wrthod dweud hynny.

“Does dim lle i hiliaeth yng Nghymru nac o fewn cymdeithas yn unrhyw le, a byddwn ni’n parhau i’w herio.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Tro pedol arall gan Reform UK. Dylid poeni dim ynghylch herio’r hiliaeth atgas yma. Ni all Gymru fentro’r rhaniadau cymunedol sy’n dod yn sgil Reform.”

Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig maent yn “croesawu’r gydnabyddiaeth yma gan gynrychiolydd Reform bod y sylw yn hiliol”.

“Does dim lle i hiliaeth a chasineb yn ein cymdeithas ac mae dyletswydd arnom oll i’w herio pryd bynnag y mae’n codi.”

Ar ran y Blaid Werdd, dywedodd llefarydd: “Os yw Arron Banks yn meddwl ei fod yn jôc, mae’n jôc a fyddai ond yn ddoniol i rywun hiliol ac mae’n jôc hiliol. A wnaiff James Evans alw nawr am ei ddiarddel?”

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cael cais am ymateb.




BBC News

Advertisements

See also  Bannau Brycheiniog: 'Angen cydbwysedd' rhwng twristiaeth a chadwraeth

Check Also

Llywodraeth yn wynebu rownd gwariant anoddaf ers cyn y pandemig – Gweinidog Cyllid

Mae’r Gweinidog Cyllid Elin Jones wedi rhybuddio y bydd Llywodraeth Cymru yn wynebu ei rownd …

Dyn 43 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili

Mae dyn 43 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili nos Sadwrn, yn …

Lluniau: Llanuwchllyn v Y Bala

Roedd ‘na gyffro ym Mhenllyn penwythnos yma gyda Chlwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn croesawu’r Bala i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime