google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

Bannau Brycheiniog: ‘Angen cydbwysedd’ rhwng twristiaeth a chadwraeth

Ymhlith y cannoedd fu’n ceisio dringo Pen y Fan yr wythnos ddiwethaf, roedd Lucie Kolarikova a Katerina Mrazkova o’r Weriniaeth Tsiec – y cyfryngau cymdeithasol oedd wedi eu denu i Fannau Brycheiniog.

“Dyna pam ry’n ni yma – roedden ni eisiau tynnu lluniau” meddai Katerina.

“Dwi’n meddwl ei fod yn rhywbeth cyffredin iawn nawr i fynd i lefydd mae pobl wedi’u gweld ar instagram”.

Mae’r warden Steffan Edwards yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod pobl yn paratoi cyn ymweld.

“Ni’n gweld pobl sydd jyst yn gweld pethe ar instragram a neidio yn y car a dod fan hyn i Fannau Brycheiniog.

“Falle bod y tywydd yn y dref neu’r ddinas yn braf, a phryd maen nhw’n dod i’r mynyddoedd mae’r niwl lawr ac mae’n bwrw, a dydyn nhw ddim wedi paratoi – heb got, heb boots neu fap neu compass.

“Ni moyn i bobl ddod i’r parc i fwynhau ond hefyd wedi paratoi ar gyfer dydd ar y mynydd.”

Mae rhyw 4 miliwn o bobl yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn flynyddol, gyda chyfran helaeth ohonyn nhw’n mynd i’r ardaloedd mwyaf poblogaidd fel Pen y Fan.


Source link

Advertisements

See also  Ethan Galbraith: Swansea City hopeful on deal for Leyton Orien midfielder

Check Also

Women’s World Cup qualifying play-offs: Jess Fishlock set to return as coach

Fishlock, who has said this will be her last year playing club football, will be …

Dydy’r pwysau ar Dîm Achub Mynydd Llanberis ‘ddim yn gynaliadwy’

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis, tra bod eu gwirfoddolwyr wrth eu boddau â’u gwaith, …

Gobaith y bydd dirwyon £150 am adael injan ymlaen yn ‘newid arferion’

Dywedodd Anna, a oedd yn casglu ei phlant o Ysgol Treganna fod yr ardal yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime