google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged i feiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

Advertisements

Mae teulu beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mynytho, Pen Llŷn wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Roger Hawcroft, oedd yn 67 oed ac yn byw gyda’i deulu ym Motwnnog, yn y fan a’r lle yn dilyn gwrthdraiwad â char ddydd Sadwrn 25 Ebrill.

Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw “yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, yn y lle yr oedd yn ei garu, gyda’r haul ar ei wyneb a’r môr wrth ei ymyl”.

“Er mor drist yr ydym, ni fyddai wedi dymuno dim byd gwahanol ac felly y bu.”

Ychwanegodd y teulu eu bod yn gwybod faint oedd yno i helpu ar y diwrnod, “yr arbenigwyr a’r bobl gyffredin, ac rydyn ni eisiau i chi nid yn unig wybod pa mor ddiolchgar ydyn ni, ond ein bod ni’n dawel ein meddyliau, ac yn dymuno’r un peth i bob person arall a wnaeth gymryd rhan”.

“Mae ein mam annwyl yn gweddïo drosoch am byth.”

Mae Heddlu’r Gogledd yn dal i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu eu hymholiadau i gysylltu â nhw.


BBC News

Views: 0

See also  Police told about drunk driver before fatal A55 crash

Check Also

'Toxic work culture and bullying' at uni prompts inquiry call

Two former staff members are bringing employment tribunal cases against the university. BBC News Views: …

George North i ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor

Mae George North, 34, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd …

Beth yw hoff ymadroddion y Cymry?

Wedi i’r iaith Gymraeg chael ei disgrifio gan yr ieithydd Susie Dent fel yr iaith …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.