google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Tafod Glas: Cyfyngiadau ar symud da byw dros y ffin i ddod i ben

Advertisements

Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies fod polisi Cymru wedi llwyddo hyd yma.

“Rwy’n sylweddoli bod y cyfyngiadau ar symud da byw a sefydlu’r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) wedi tarfu ar geidwaid da byw a’r diwydiant ehangach,” meddai.

“Rwyf wedi cwrdd â’r sectorau da byw a milfeddygol yn rheolaidd, mewn cyfarfodydd ford gron, ac wedi gwrando ar eu hymateb i’r heriau y mae’r cyfyngiadau ar symud da byw rhwng Cymru a Lloegr ac effeithiau posibl y Tafod Glas ar iechyd a lles anifeiliaid, wedi’u creu.

“Yn dilyn y trafodaethau hynny, ac yn unol â’m hymrwymiad i adolygu’r sefyllfa ar sail tystiolaeth newydd a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg, rwyf wedi ystyried ein polisi Tafod Glas yng Nghymru ar gyfer gweddill 2025 a thu hwnt.

“O gofio bod firws y Tafod Glas wedi cyrraedd Cymru, a bod data hanesyddol am y tymheredd a gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn annhebygol iawn y bydd gwybed yn lledaenu firws y Tafod Glas yng Nghymru ar ôl 10 Tachwedd, bydd y Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru’n dechrau ar y diwrnod hwnnw.”

Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine eu bod yn parhau i annog ceidwaid da byw “i gadw golwg am arwyddion y Tafod Glas”.

“Brechu yw’r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y Tafod Glas,” meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Man badly hurt in stabbing at Bognor Regis train station

Check Also

‘Cytunodd fy merch, 18, yn syth i roi ei holl organau cyn marw’

Pwysleisiodd Ben Hume, is-reolwr y gwasanaeth organau a thrawsblaniadau yn y DU, pa mor bwysig …

Jack Moylan: Cardiff City set to sign Lincoln City midfielder

Cardiff City are set to sign midfielder Jack Moylan from Championship rivals Lincoln City. The …

Hayden Mullins vows Newport County will fight for every inch

The atmosphere at Rodney Parade also left a lasting impression on Newport’s new boss, who …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa kit. Elfbar elfa basic units (battery carrier).