google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Starmer yn penodi Jo Stevens yn Ysgrifennydd Cymru

Mae Jo Stevens wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Cymru gan Brif Weinidog Llafur newydd y DU, Syr Keir Starmer.

Roedd AS Dwyrain Caerdydd wedi gwasanaethu dan Syr Keir fel llefarydd materion Cymreig yr wrthblaid yn San Steffan ers Tachwedd 2021.

Bu’n gwneud y swydd honno am dri mis dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn 2016-17, nes iddi adael cabinet yr wrthblaid mewn protest yn erbyn penderfyniad i orfodi ASau Llafur i gefnogi’r mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe gafodd ei hethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn etholiad cyffredinol 2015, gan gynrychioli etholaeth Canol Caerdydd.

Oherwydd y newidiadau i ffiniau etholaethau, mae hi’n dychwelyd i San Steffan fel cynrychiolydd etholaeth newydd Dwyrain Caerdydd gyda mwyafrif o dros 9,000 o bleidleisiau dros ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.


Source link

See also  Everything you need to know

Check Also

Follow-up appointments scrapped in Welsh NHS waiting list plan

According to ap Gwynfor, the approach will result in a permanent reduction in waiting times …

URC yn ‘weithle mwy diogel’ wedi canfyddiadau o ddiwylliant gwenwynig

Daeth yr adolygiad, a gafodd ei gomisiynu gan URC, yn sgil ymchwiliad gan BBC Cymru …

Michael Sheen says Wales should be asked if it wants Prince of Wales title back

Ayola last acted opposite Sheen 40 years ago when they were both teenagers, as part …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime