google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ddydd Calan

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a chawodydd o law trwm ar gyfer mwyafrif y wlad ddydd Calan.

Daw’r rhybudd am wyntoedd cryfion i rym am 09:00 fore Mercher, a bydd yn parhau mewn grym tan 06:00 fore Iau.

Fe allai gwyntoedd hyrddio hyd at 60mya, gan gyrraedd 65-75mya mewn mannau arfordirol ac ar dir uchel, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae’r rhybudd am wyntoedd cryfion yn berthnasol i bob sir yng Nghymru.

Fe ddaw’r rhybudd am gawodydd o law trwm i rym am 09:00 fore Mercher hefyd, a bydd yn dod i ben am 21:00 y noson honno.

Mae disgwyl i rhwng 20-40mm o law ddisgyn yn ystod y dydd, gyda hyd at 60mm mewn rhai mannau.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r tywydd garw achosi trafferthion i deithwyr, fe all teithiau bws a thrên gymryd mwy o amser, tra bod llifogydd ar y ffyrdd hefyd yn bosib.

Mae disgwyl i 20 o siroedd Cymru gael eu heffeithio; Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam.


Source link

Views: 0

See also  Technoleg rithwir yn gallu helpu lles pobl ifanc?

Check Also

Commonwealth Games 2026: Aled Sion Davies’ passion renewed for discus return

Despite his world number one ranking, Davies says he has relinquished his own expectations but …

Camau newydd i leddfu pwysau ar wirfoddolwyr cylchoedd meithrin

Cafodd holiadur ei rannu ag aelodau o bwyllgorau cylchoedd meithrin ar draws Cymru. Fe awgrymodd …

Datgymalu a symud llong a fu’n sownd ar greigiau am fisoedd

Mae’r gwaith o symud llong 24 metr o hyd a aeth yn sownd ar greigiau …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
 / safe guard pest control. The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes.