google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Oglau llosgi mawr’ wrth i dân barhau a phobl leol yn ‘bryderus’

Dywedodd Anthony Jones o’r gwasanaeth tân eu bod wedi cael eu galw am 02:15 fore Sul ac y bu rhaid iddyn nhw ddelio “â nifer sylweddol o ddigwyddiadau difrifol ar draws gogledd Cymru”.

“Bu ein diffoddwyr tân yn gweithio drwy’r nos, gan ddechrau ddoe yn y bore, ac maen nhw’n parhau ar y safle heddiw,” meddai fore Llun.

“Mae tua 200 erw o dir wedi’u heffeithio.”

Esboniodd fod y tân tua 1.6 cilomedr o hyd ar ei waethaf, “felly roedd o’n ddigwyddiad mawr a sylweddol iawn i ni”.

“Oherwydd y tirwedd anodd iawn ar Fynydd Conwy, mae’n anodd iawn i ni gael ein timau yno. ‘Da ni’n disgwyl bod yno am beth amser.

“Wrth i’r tymheredd godi yn yr ardal y bore ‘ma ac yn ystod y dydd, ‘da ni’n disgwyl gweld y tân yn dwysáu eto, ond mae ein timau wedi bod yn cynllunio drwy’r nos i baratoi ar gyfer hynny.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Sexual assault head teacher gives 'no comment' interview

Check Also

Cyn-athro fu’n rhan o gyfres ddogfen yn cyfaddef ymosod yn rhywiol ar ferch

Yn ystod yr achos, roedd Ritter wedi gwadu cyffwrdd y ferch yn rhywiol heb ei …

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime