google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ateb y Galw: Rose Datta

Rose DattaFfynhonnell y llun, LŴP / S4C

Yn Ateb y Galw i Cymru Fyw heddiw mae prif leisydd y grŵp Taran ac enillydd cystadleuaeth Y Llais ar S4C, Rose Datta.

Grŵp wedi ei ffurfio gan ddisgyblion o Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd, yw Taran, a ryddhaodd sengl o’r enw Pan Ddaw’r Nos ar label JigCal y llynedd.

Dyma Rose yn ateb ein cwestiynau busneslyd.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yng Nghymru yw Talacharn. Dwi’n teimlo’n gartrefol pan dwi’n ymweld â’r lle, gan fy mod wedi mynd yna efo ‘nheulu i ers i mi fod yn ifanc iawn.

Mae yna resort lyfli yna ble rydyn ni’n aros sydd wrth ymyl yr arfordir a gyda’r tirwedd mwya’ hardd ac ysbrydoledig dwi erioed wedi gweld.

Dwi wedi sgwennu nifer o ganeuon wrth edrych ar yr olygfa.

TalacharnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tref Talacharn yn Sir Gâr, lle roedd yr awdur Dylan Thomas yn byw ac yn cael ysbrydoliaeth i’w straeon, hefyd yn ysbrydoli Rose i ysgrifennu caneuon

Beth yw’r noson orau i chi ei chael erioed?

Dwi ddim yn meddwl galla i ddewis un noson ond falle’r un gore yn ddiweddar oedd pan enillon ni’r wobr am record fyr ore yng Ngwobrau’r Selar!

Er roedd yn ddiwrnod eitha’ chaotic, fi’n credu teimlon ni gyd yn falch ac yn ddiolchgar iawn ac roedd y dathliad ar ôl ‘ny yn wych ac yn fythgofiadwy hefyd!

TaranFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Taran yn ennill y wobr Record Fer Orau yng Ngwobrau Selar 2025

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl ‘nôl?

Mae cofio’n ôl at fy amser yn Awstralia yn ‘neud i fi wenu o glust i glust, roedd yn brofiad anhygoel! Arhosais gyda fy chwaer sydd yn byw yn Sydney ar y foment.

Aethon ni i lawer o draethau (gan gynnwys Bondi!) a hefyd es i Laneaway Festival i wylio rhai o fy hoff artistiaid megis Olivia Dean a Charli XCX!

Teithion ni i Fiji am bum noson hefyd, roedd e’n braf iawn yna gan mai haf nhw oedd e felly des i nôl efo’r tan mwya’ erioed!

Olivia DeanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gantores Olivia Dean yn perfformio yng ngŵyl Laneway yn Awstralia

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

O na, mae cofio hyn yn neud i fi gochi! Felly, blwyddyn ddiwethaf ar Ddydd Miwsig Cymru wnaethon ni berfformio yn ysgol Bishop of Llandaf a gan taw ysgol Saesneg yw hi, gofynnon nhw i fi sillafu enw ein band.

Nes i sillafu Taran fel T A R N A – esgus fi oedd bod hi wedi bod yn ddiwrnod hir a chwaraeon ni bedwar gig wahanol, un ar ôl y llall!

Ond mae gen i gymaint o gywilydd ac yn sicr, dyw gweddill y band ddim yn gadael i mi anghofio amdano!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Gan fy mod yn berson eitha cheesyguilty pleasure fi yw gwylio romantic comedies a phob tro, yn ddi-ffael, dwi’n ffeindio fy hun mewn dagrau efo bocs o tissues gan eu bod nhw’n gwneud fi’n or-emosiynol.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi ddim yn dda yn ymateb i group chat y band. Fi’n gwella, dwi’n addo!

Rose ac AleighciaFfynhonnell y llun, S4C/Boom Cymru/ITV Studios
Disgrifiad o’r llun,

Rose, gyda’i hyfforddwr Aleighcia Scott, ar ôl ennill Y Llais

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

I fod yn hollol onest dwi ddim yn darllen lot o lyfrau y dyddiau ‘ma ond pan oeddwn i’n ifanc cyfres Harry Potter oedd ar frig y rhestr. Yr Half Blood Prince yw’r un gore, yn fy marn i beth bynnag!

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Harry StylesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Rose wrando ar Harry Styles yn rhannu ei straeon dros ddiod

Beth fyddet ti’n neud ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned?

Cwestiwn ardderchog – fi wastad wedi eisiau gwneud bungie jump – dymuniad od i ddweud y gwir! Byddwn i’n treulio amser gyda fy nheulu a ffrindie yn gwerthfawrogi pob agwedd o fywyd! Hefyd byddwn i’n bwyta llond bol o fwydydd jync – fyddai dim ots am yr effaith ddrwg ar ddiwrnod ola’ fy mywyd, haha!


BBC News

Views: 0

See also  Rhyl: Man appears in court accused of murdering 69-year-old woman

Check Also

Lluniau: Dydd Mawrth yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Cip ar ddiwrnod arall poeth a phrysur ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe …

World Cup 2026: Ex-Arsenal midfielder Thomas Partey in preliminary Ghana squad

Goalkeepers: Benjamin Asare (Accra Hearts of Oak SC), Lawrence Ati-Zigi (St Gallen), Joseph Anang (St …

Ymgeisydd Reform a gamodd yn ôl dros lun saliwt i gynghori’r arweinydd

Ar ôl i’r llun ddod i’r amlwg yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Reform eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
© 2026 coconut point residences. The best hair cut in london – you finally found it !. lipo pure (mic b12).