google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio un ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddyn farw yn y Trallwng

Advertisements

Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw yn Y Trallwng.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi derbyn adroddiad am ddyn oedd wedi cael ei anafu ar Stryd yr Eglwys am 01:16 fore Sul.

Ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion a’r gwasanaeth ambiwlans, bu farw’r dyn.

Bu ambiwlans awyr yn bresennol yno hefyd.

Mae’r dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi cael ei gadwyn y ddalfa ac mae’r llu yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd yr heddlu bod dyn arall yn parhau yn y ddalfa hefyd.

Ychwanegodd y llu bod y ffyrdd wedi cau ar hyd Stryd yr Eglwys a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yno tra bod yr ymchwiliad yn parhau.


BBC News

Views: 1

See also  Taylor Swift: Swiftie-fever grips Cardiff ahead of sell-out gig

Check Also

Mimi Xu embracing weight of Wimbledon expectation

Xu however, is not about to fret her return to tennis’ biggest stage. “Pressure is …

Where will Andy Burnham take Wales and Welsh devolution?

The current Labour government has faced criticism from many Welsh Labour colleagues in Cardiff for …

Bron i 400 o raddedigion iechyd heb swyddi yn y GIG yng Nghymru

Dywedodd AaGIC fod “gwelliant mewn recriwtio a chadw staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Fishing boat transport. heavy equipment transport cuyahoga oh.