google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd y gallai deddf cydraddoldeb rhywedd fod yn anghyfreithlon

Ni fyddai hynny’n atal y mesur rhag cael ei basio, ond mae’n codi’r posibilrwydd o ddadlau dros y ddeddfwriaeth yn y llysoedd.

Bydd angen i bleidiau lunio rhestrau o ymgeiswyr ar gyfer etholiad, wedi’u rhestru yn nhrefn pwy fydd yn cael eu hethol gyntaf.

Cafodd pryderon y Comisiwn eu codi mewn llythyr at bwyllgor Senedd Cymru sy’n edrych ar y cynlluniau diwygio, gan ddweud y gallai’r mesur “arwain at gynnwys cwotâu yn seiliedig ar ryw hunan-adnabyddedig person yn hytrach na’u rhyw cyfreithlon”.

Dywedodd y prif weithredwr dros dro, John Kirkpatrick, y gallai hyn fod yn anghyson â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Dywedodd wrth bwyllgor diwygio’r Senedd mai rhyw gyfreithiol person oedd sail y gyfraith gwrth-wahaniaethu, fel y nodir ar eu tystysgrif geni neu a gafwyd trwy dystysgrif cydnabod rhyw.

Byddai angen i ymgeiswyr nodi eu rhyw mewn datganiad. Dywedodd Mr Kirkpatrick nad oedd yn glir sut y byddai hynny’n gweithio’n ymarferol.

Dywedodd os yw hyn yn golygu rhyw hunan-adnabyddedig, “mae hyn yn annhebygol o fod yn gyfreithlon gan na fydd pawb sy’n hunan-adnabod fel merched yn cael eu hystyried yn gyfreithiol o dan y Ddeddf [Cydraddoldeb]”.

“Os yw ‘datganiadau rhywedd’ yn cyfeirio at ddatganiad o’ch rhyw gyfreithiol fe ddylai hyn gael ei wneud yn glir.”


Source link

See also  Shop owner gets £100 and apology 15 years after student stole sign

Check Also

Ateb y Galw: Ant Evans

Yr ieithydd a’r awdur Ant Evans, sy’n wreiddiol o Harlech ond sydd bellach yn byw …

Prif weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyfarfod yng Nghaerdydd

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y prif weinidog yn benderfynol …

Disgwyl rhyddhau dyn gafodd ei garcharu am 21 mlynedd am ddwyn ffôn

Cafodd dedfrydau IPP eu cyflwyno yn 2005 er mwyn gallu cadw troseddwyr difrifol, oedd yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime