google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgwyl rhyddhau dyn gafodd ei garcharu am 21 mlynedd am ddwyn ffôn

Cafodd dedfrydau IPP eu cyflwyno yn 2005 er mwyn gallu cadw troseddwyr difrifol, oedd yn cael eu hystyried yn risg i’r cyhoedd, yn y carchar. Roedd lleiafswm i’r ddedfryd yn cael ei osod, ond dim uchafswm.

Byddai’n rhaid i garcharorion gwblhau’r lleiafswm cyn i fwrdd parôl ystyried os oedd hi’n ddiogel i’w rhyddhau. Ond doedd hyn ddim yn digwydd yn awtomatig.

Maen nhw hefyd yn destun amodau trwydded fyddai’n rhaid eu dilyn, neu wynebu cael eu hadalw i’r carchar ar ôl cael eu rhyddhau.

Daeth y dedfrydau i ben yn 2012 yn sgil beirniadaeth, ond doedd y newid ddim yn effeithio achosion hanesyddol.

Ym mis Gorffennaf roedd tua 2,400 o bobl yn dal yn y carchar gyda dedfrydau IPP, yn ôl ffigyrau’r Cenhedloedd Unedig.

Ond yn ôl Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2,271 o garcharorion IPP oedd dan glo ar 30 Mehefin.

Mae’r Cenhedloedd Unedig, sydd am weld dedfrydau IPP yn cael eu gwaredu, yn dweud eu bod yn “mynd yn groes i hawliau dynol”.

Mae Anthony wedi cymharu achos Leroy gydag achos troseddwyr fel Jeffrey Gafoor, a lofruddiodd Lynette White yn 1992.

Cafodd ei ryddhau o’r carchar yn 2025 ar ôl treulio 21 mlynedd dan glo.

“Fe wnaeth Leroy ddwyn ffôn, sut allai hynny fod yn iawn?” gofynnodd Anthony.


BBC News

Advertisements

See also  Mam plentyn awtistig yn 'angerddol' dros ddangos realiti bywyd

Check Also

Cardiff City: Barry-Murphy praises resolve in Boro draw

Cardiff remain in the bottom half of the table after the draw and, after 11 …

Clayface’s Tom Rhys Harries says prosthetics helped performance

Actors are often said to be the face of the film, but in Tom Rhys …

Black Lion 14-39 Ospreys: Welsh side ease to Challenge Cup win in Georgia

Black Lions: Tsirekidze; A Tabutsadze, L Tabatadze, Akhvlediani, R Makhatadze; Babunashvili, Spenderashvili; Abdushelishvili, Kvatadze, Khatiashvili, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime