google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Rhybudd melyn am ragor o law trwm yn y de ddydd Sul

Advertisements

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar hyd de Cymru ddydd Sul.

Daeth y rhybudd i rym am 08:00 fore Sul a bydd yn dod i ben am 19:00.

Mae llifogydd yn bosib mewn mannau tra bod rhywfaint o drafferthion ar y ffyrdd yn debygol, yn ôl y Swyddfa Dywydd,

Fe allai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd ac mae galw ar bobl i gynllunio a gwirio amserlenni cyn teithio.

Mae rhwng 10-20mm o law yn debygol yn ar hyd ardal y rhybudd, tra bod 35-45mm yn bosib ar dir uchel.

Mae’r rhybudd yn berthnasol i 16 o siroedd ar hyd y de – Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Powys, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Torfaen.

Daw’r rhybudd ond rai dyddiau ar ôl i law trwm arwain at lifogydd difrifol yn y de orllewin.


BBC News

See also  Pakistan win but Ireland take series 2-1 - third women's T20 scorecard

Check Also

Michael Sheen says Wales should be asked if it wants Prince of Wales title back

Ayola last acted opposite Sheen 40 years ago when they were both teenagers, as part …

Cardiff City: Brian Barry-Murphy says he was backed in transfer window

There had been suggestions Cardiff wanted to strengthen up front, out wide and in defence. …

Wrexham news: Parkinson pleased to see transfer window close

Neither side managed a shot on target in the opening half at The Den, although …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime