google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd am ddirywiad cymunedau cefn gwlad oherwydd llai o ddisgyblion

9cc76700 6096 11f0 83e5 c99758354894.jpg

Advertisements

Yn ôl cyn arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd John Davies, mae yna heriau enfawr yn wynebu ardaloedd gwledig yn sgil newidiadau demograffeg.

“Mae yna ddiboblogi yn digwydd, mewn un ystyr, ond y demograffeg yw e.

“Mae hon yn her nid yn unig yn y cyd-destun gwledig ond ar draws y bwrdd.

“Mae’n poblogaeth ni yn heneiddio, mae’n ysgolion ni yn lleihau ac yn gwacáu, ac mae’n ysbytai a meddygfeydd yn orlawn oherwydd mae’r demograffeg yn newid.

“Mae pobl dros 50 yn dod lawr yma i rannol ymddeol. Ni’n colli’r egni ifanc yna i greu bwrlwm a economi sydd yn ffynnu yn wledig.

“Mae’r cyfan yna yn cael ei golli wrth iddyn nhw fynd i’r dwyrain.”

Yn ol ffigurau’r cyngor,, dolen allanol mae poblogaeth ysgolion cynradd ardal y Preselau wedi lleihau bron i 19% ar gyfartaledd rhwng 2015 a 2024, a 6.6% yn ardal Dinbych y Pysgol yn ystod yr un cyfnod.

Ar gyfartaledd, mae poblogaeth ysgolion Sir Benfro wedi lleihau 12% ers ad-drefnu llywodraeth leol.

Mae disgwyl i nifer y plant yn Sir Benfro rhwng 0-15 leihau 11.7% dros y 10-15 mlynedd nesaf.

Cadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod yna 17 o ysgolion yn y sir honno gyda llai na 50 o blant.

Mae rhagolygon Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd yna leihad o bron i 50,000 yn nifer i disgyblion ar draws Cymru erbyn 2040, ac mae’r gyfradd geni wedi bod yn lleihau ers 2010.

Cafodd y sefyllfa ei disgrifio fel “her frawychus”, dolen allanol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2021.


BBC News

Views: 0

See also  Mwy o gorau cerdd dant yn 'codi calon' ar drothwy'r ŵyl flynyddol

Check Also

The Hundred 2026 results: Matt Short guides Welsh Fire past Southern Brave

The Hundred men’s competition, Sophia Gardens Southern Brave 115-8 (100 balls): Stoinis 55 (39); Cook …

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026

Daeth yr haul allan ar gyfer dathliadau Urddo aelodau’r Orsedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Y …

Y bardd a’r saer maen Hedd Bleddyn wedi marw yn 87 oed

Dywedodd Aled Griffiths, cyfaill i Hedd Bleddyn a chadeirydd Eisteddfod Genedlaethol 2027, wrth BBC Radio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime