google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dim digon o waith i’r iaith’ – Galw am ddatblygu bro’r Eisteddfod

Advertisements

Dyw’r llywodraeth newydd, dan arweiniad Plaid Cymru, ddim wedi cyhoeddi cynllun eto i olynu Arfor.

Dywedodd llefarydd bod “cryfhau’r economi wledig yn flaenoriaeth” a’i bod yn datblygu “strategaeth ddatblygu wledig wedi ei theilwra” i adeiladu ar gynllun Arfor, er mwyn “taclo tlodi a chreu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol o fewn cymunedau gwledig”.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cael benthyciad o £1.85m gan Lywodraeth Cymru i brynu fferm ar gyrion Llanbedr Pont Steffan, gyda chanolfan hyfforddi galwedigaethol amaethyddol yn agor yn fferm Lletytwppa ym mis Medi.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion bod ceisio cadw pobl ifanc yn yr ardal yn rheswm pendant dros fentro, gyda chyrsiau amaeth yn cael eu cynnig yno ym mis Medi.

“Ni yn gweld y brain drain fel mae’r Saeson yn ei alw fe tuag at y dinasoedd mawr,” meddai Bryan Davies.

“Roedd gofod o ran darpariaeth sgiliau o ni’n cynnig yn y sir. Os ti’n gallu cadw pobl ifanc yn yr ardal, neu denu nhw o ardaloedd eraill, a chynnig y cyrsiau ‘ma iddyn nhw gobeithio byddan nhw yn rhan o’r economi a chyfrannu at economi’r ardal.

“I fi, y diwydiant pwysicaf sydd gyda ni yng Ngheredigion yw amaeth, ynghyd â thwristiaeth. Mae yna gyfle euraidd fan hyn i ehangu sgiliau pobl ifanc.”


BBC News

Views: 2

See also  Port Talbot: Dine-and-dash couple jailed after restaurant fraud

Check Also

Tom Howe: The teenage hooker tipped for Wales before his Cardiff debut

Great potential, undoubtedly, yet there will be no rushing of a young man from Llanishen …

Plea over 11 ‘forgotten’ WWII heroes buried at Dutch cemetery

Theo Vervoort said he visited the cemetery every week, adding: “I’m busy cleaning, throwing away …

Ex-journalist Martin Huws wins Eisteddfod Crown for poem about abuse

Huws told BBC Wales he had felt “a lot of mixed emotions – fear and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfliq with 10 mg/ml nicotine.