google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Pwytho enwau Cymraeg Eryri ar garthenni i’w diogelu at y dyfodol

Advertisements

Cafodd y gwehydd Anna Pritchard ei magu ar fferm odro yn ardal Dyffryn Ogwen, ac eglurodd ei bod hi’n gwybod pa mor bwysig yw “cadw’r tradoddiadau” a’r “hanes”.

“Mae fy ngwaith fel arfer yn gofnod o hanesion a thraddodiadau ffermio – mae fy nheulu yn un o’r teuluoedd amaethyddol hynaf sy’n dal i weithio yn Nyffryn Ogwen.

“Dwi’n gwybod pa mor bwysig yw gwarchod yr hanes – dwi’n teimlo’n freintiedig dros ben fod y Parc wedi gofyn i mi wehyddu’r rhain,” meddai.

Bu Anna, sydd bellach yn byw yn ardal Glasinfryn yng Ngwynedd, yn mynychu rhai o’r sesiynau ‘galw i mewn’ ei hun, lle cafodd wrando ar y gymuned a’r ffermwyr yn adrodd yr enwau lleoedd coll:

“Gatws Uffern… Cae Moch… mae’n bwysig dal arnyn nhw,” meddai.

“Mae wedi cymryd dros flwyddyn i mi gynllunio’r pum carthen – roedd angen i mi ddewis fy hoff enwau o’r casgliad, ond hefyd gwneud fy ngwaith ymchwil arnynt.

“Dwi’n gwneud bob dim efo llaw – roedd pwytho pob enw yn cymryd o leiaf chwarter awr!” ychwanegodd.


BBC News

See also  Swansea City: What next for Vitor Matos' struggling side amid mounting concerns?

Check Also

Port Talbot paedophile who abused children jailed for 21 years

A predatory and dangerous paedophile who abused a young child and used chatrooms to plan …

Newport County re-sign winger Tanatswa Nyakuhwa on loan from Cardiff City

Newport County have completed the loan signing of winger Tanatswa Nyakuhwa from Cardiff City on …

Swansea City transfer news: Jeremy Monga deal set to go through despite Ronald and Inoussa deals collapsing

Swansea City expect to sign Manchester City winger Jeremy Monga on loan for the rest …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime