google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Menywod sy’n prynu testosteron ar-lein yn wynebu sgil effeithiau hirdymor

Dr Olver sy’n gyfrifol am arwain clinig menopos Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ac mae hi’n dweud bod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y cyfeiriadau yn ymwneud â menywod sydd eisiau cael mynediad at destosteron.

Esboniodd fod y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn defnyddio system goleuadau traffig – a bod rhai ardaloedd yn goch, sy’n golygu mai dim ond arbenigwyr sy’n gallu rhoi presgripsiwn testosteron.

Un o’r prif resymau dros yr amrywiaeth o ran darpariaeth ar hyd y wlad yw’r ffaith nad oes cynnyrch trwyddedig i fenywod ar y GIG, meddai Dr Olver.

Mae cynnyrch testosteron i fenywod wedi bod ar gael mewn gwledydd eraill ers sawl blwyddyn, ac maen nhw ar gael o rhai clinigau preifat yn y DU.

Mae’r cynnyrch dan sylw, Androfem, wedi cael trwydded yn y DU ond mae dal angen i NICE benderfynu os fyddai hi’n gost effeithiol i’w gynnig ar y GIG.

Ar hyn o bryd mae Androfem yn costio tua £100 i’r GIG, ond mae’r un faint o’r cynnyrch i ddynion, Testogel, yn £30.

Ychwanegodd Dr Olver ei bod hi’n bwysig rheoli disgwyliadau a bod menywod yn cael cyngor llawn ynglŷn â’r hyn sydd i’w ddisgwyl pan yn defnyddio testosteron.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Plaid Cymru's Rhun ap Iorwerth: Labour feeds Reform fearmongering

Check Also

I’ve learned lessons, first minister says after summer budget defeat

At a press conference ap Iorwerth warned of a challenging financial situation and said his …

Dynes wedi marw o drawiad gwres tra’n cerdded ar Yr Wyddfa – cwest

Mae cwest wedi clywed bod dynes 35 oed wedi marw ar fynydd yn Eryri ar …

Newport County sign Michael Adu-Poku, Kion Etete and Matty Jacob

Jacob is the second left-back to arrive this summer after a loan deal for Bournemouth’s …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime