google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y naturiaethwr o Gaerdydd a ysbrydolodd Watership Down

Tra’n byw yn Orielton, cafodd Lockley ei gomisiynu gan Warchodaeth Natur Prydain i gynnal astudiaeth drylwyr o fywyd cwningod. Ysgrifennodd lyfr o’r enw The Private Life of the Rabbit yn 1964 yn seiliedig ar y gwaith ymchwil hwn. Roedd y llyfr yn cofnodi patrymau bywyd cwningod mewn modd trylwyr a sensitif, a oedd yn llwyddo i gydio yn nychymyg y darllenydd.

Yn 1972, cyhoeddodd Richard Adams ei nofel enwog i blant am fyd ffantasïol y cwningod, Watership Down.

Seiliodd Adams ei nofel ar waith ymchwil Lockley yn The Private Life of the Rabbit. Doedd Adams ddim yn adnabod Lockley ar y pryd. Danfonodd Adams ddrafft olaf y nofel at Lockley am adborth cyn iddi gael ei chyhoeddi, ac fe ddaeth y ddau’n ffrindiau agos wedi hynny.

Fel ffordd o ddiolch i Lockley, wnaeth Richard Adams gynnwys ei ffrind fel cymeriad yn ei nofel The Plague Dogs yn 1977.

Mewn rhagair i ail argraffiad The Private Life of the Rabbit, meddai Adams, “from Ron I learned that rabbits had dignity and ‘animality’ – the quality corresponding to ‘humanity’ in men and women. Their life pattern was fascinating.”

Cafodd y nofel ei haddasu fel ffilm animeiddiedig eiconig yn 1978.

Teithiodd y ddau gyda’i gilydd i’r Antarctig yn y 1980au, ac fe ysgrifennon nhw lyfr gyda’i gilydd yn cofnodi’r teithiau hyn o’r enw Voyage Through the Antarctic, a gyhoeddwyd yn 1982.


BBC News

Advertisements

See also  Merched Ray Gravell yn cofio eu tad a fyddai'n 75 oed

Check Also

Fears for some Swansea schools as pupil numbers set to drop

A report for Swansea council said the demographic trend presented significant challenges for education planning, …

I interviewed Tennessee death row inmate Christa Pike 20 years ago

Pike grew up in Beckley, a small, working-class city in southern West Virginia, and her …

World Rally Championship: Elfyn Evans title bid under threat from flying Oliver Solberg

Elfyn Evans’ hopes of claiming a first World Rally Championship (WRC) crown are hanging by …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime