google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ‘hybu’ figaniaeth

Mae Beca Glyn, sy’n cefnogi ei thad, yn cwestiynu sut mae mynd yn llysieuol yn well i’r amgylchedd.

Dywedodd: “Dydi o ddim yn gwneud synnwyr mynd yn llysieuol – dydi’r llysiau ddim yn mynd i fod yna drwy’r flwyddyn felly bydd yn rhaid mewnforio cynnyrch.

“Sut mae hynny yn well i’r amgylchedd? Mi fasa’n well i gaffis yr ymddiriedolaeth gefnogi cynnyrch lleol o fewn ardal y caffis,” meddai.

Mae Glyn Roberts yn pwysleisio nad dadl rhwng amaethwyr a figaniaid sydd dan sylw ond yn hytrach be ydi pwrpas a nod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dywedodd mai “rheswm am fodolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ydi edrych ar ôl hanes, treftadaeth a harddwch ardal”.

“Os ydyn nhw’n hybu figaniaeth, sut maen nhw’n medru cadw yn gynaliadwy dreftadaeth, iaith, harddwch ardal, pobl i fyw yng nghefn gwlad a phobl i gyfrannu at economi cefn gwlad os ydyn nhw ddim yn bwyta ein cynnyrch ni ein hunain?”

“Amaethyddiaeth sydd wedi cadw’r petha’ sy’n bwysig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac maen nhw yn troi eu cefn ar hynny ac yn ein gwerthu ni lawr y ffordd… mae hynny i mi yn druenus iawn,” ychwanegodd.


Source link

Views: 0

See also  'Dim amserlen i annibyniaeth' - Liz Saville Roberts

Check Also

Champions League qualifying: The New Saints’ Leo Smith on injury, recovery and return

The New Saints’ Leo Smith did not initially fear the worst when he went down …

Esyllt Sears: ‘Falch i roi llais i famau sengl’

Wrth drafod ei sefyllfa a’r heriau sy’n codi fel mam sengl ar y podlediad – …

Mum at Gwynedd school with two pupils slams council over closure plans

The council said falling pupil numbers across the local authority had made the decision unavoidable. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... heavy equipment transport kern ca.