google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Ffestiniog: Disgwyl penderfyniad ar gynllun ynni hydro dadleuol

Advertisements

Dywedodd Graeme Cotterill, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: “Ni ddylai unrhyw raeadr fod yn nodwedd rhan-amser o dirwedd Eryri – heb sôn am un mor eiconig a gwerthfawr â hon.

“Er gwaethaf y difrod posibl i fywyd gwyllt a gwerth tirwedd y safle, ni fyddai’r cynllun yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddadgarboneiddio economi Eryri – heb sôn am un ‘eithriadol’.”

Ond mae’r rheiny sydd y tu ôl i’r fenter – tri brawd sy’n ffermio yn ardal Y Bala – yn dadlau mai “effaith fach iawn” y byddai’r cynllun yn ei gael ar y tirwedd, ac y bydd yr elfen hydro ond yn weithredol pan fydd digon o ddŵr yn yr afon.

Fel rhan o’r cais, sydd wedi ei gyflwyno gan Dafydd Elis, Moi Dafydd ac Elis Dafydd, dywedon nhw: “Bydd y cynllun arfaethedig hwn yn rhoi sicrwydd i genedlaethau’r dyfodol yn ogystal â chaniatáu i ni fel teulu chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd presennol drwy gynhyrchu trydan o ffynhonnell adnewyddadwy i’r gymuned leol ei ddefnyddio.”

Casgliad swyddogion y parc yw, “ar y cyfan, ystyrir bod y cais yn dderbyniol ac felly argymhellir ei gymeradwyo”.

Mae disgwyl penderfyniad pan fydd Pwyllgor Cynllunio’r parc yn cyfarfod fore Mercher.


BBC News

See also  Adran Premier: Swansea City draw as Wrexham keep top four hopes alive

Check Also

Cyflwr iechyd plant Cymru yn ‘frawychus ac yn gwaethygu’

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae iechyd plant yn bwysig ofnadwy, a byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad …

‘Siawns am beint?’: Atgofion magwraeth yn nhafarn C’mon Midffîld

Mae C’mon Midffîld yn rhan o hanes y pentref, a dyna o bosib fydd tynged …

Rheolau rhoddwyr sberm wedi ‘chwalu breuddwydion’ teulu

Mae’r cwpl yn galw am newid i’r gyfraith fyddai’n golygu unwaith y mae rhoddwr wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime