google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 9 2026

‘Dim amserlen i annibyniaeth’ – Liz Saville Roberts

Advertisements

Byddai Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Plaid Cymru yn rhoi “cyfle” i drafod annibyniaeth, ond nid yw’r camau i gyflawni hynny “yn glir eto”, yn ôl arweinydd y blaid yn San Steffan.

Dywedodd Liz Saville Roberts wrth y BBC nad yw’r setliad datganoli presennol wedi darparu gwasanaethau iechyd ac addysg uchel eu clod, a bod “rhaid i annibyniaeth fod y cam rhesymegol nesaf”.

Ond ychwanegodd nad oes amserlen i hynny.

Bydd etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai 2026, ac mae arolygon barn ar hyn o bryd yn awgrymu mai Plaid Cymru a Reform sydd ar y blaen.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud na fyddai’n cynnal refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.


BBC News

See also  Rhyddhau bachgen ar fechnïaeth wedi i ddynes farw mewn tân

Check Also

Corff bachgen 15 oed wedi’i ganfod ar ôl mynd i drafferthion yn y môr

Mae corff bachgen 15 oed a aeth i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir …

How far should schools go to restrict mobile phones?

However, Brychan said any restrictions should be based on the individual needs of school communities. …

Phil Parkinson demands Wrexham do better after Burnley draw

Wrexham are away to another side relegated from the Premier League, leaders West Ham United, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime