google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

‘Mae gorfod cael yr heddlu i redeg gyda ni yn dangos maint y broblem’

Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i fenywod wneud ffrindiau newydd, cael cefnogaeth a mwynhau rhedeg gyda’i gilydd.

Ond dywedodd Gwen nad yw’n iawn bod angen ymuno â grŵp er mwyn teimlo’n ddiogel.

“Dyna pam mae’r grŵp mor bwysig, ond ar yr un pryd, ddylai fod dim angen grŵp er mwyn i ni deimlo’n saff.”

Dywedodd Gwen fod yr aflonyddu’n newid y ffordd y mae menywod yn teimlo wrth fynd allan i redeg.

“Dydy hyn ddim i fod i gael ei normaleiddio, achos dyna be sy’n digwydd rŵan. Mae pobl yn dweud, ‘Jyst anwybydda fo, bydd popeth yn iawn’, ond na, mae o wedi mynd mor bell.

“Pan dwi’n mynd ar runs hir ar fy mhen fy hun, mae o’n digwydd lot mwy nag mae pobl yn meddwl. Dwi di cael yr un car yn pasio heibio fi tua phum gwaith o’r blaen.

“Dan ni jyst eisiau cael ein gadael ni lonydd. Hyd yn oed os dach chi’n nabod ni, peidiwch â chanu’ch corn na gweiddi arnon ni. Jyst gadewch i ni redeg.”


BBC News

Advertisements

See also  NHS Wales: Woman thought she would die waiting for ambulance

Check Also

Voters 'duped' over Covid inquiry and arsonists torched three homes

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Welsh government mini-budget passes after Plaid-Labour deal

The Senedd has passed the Welsh government’s mini-budget, nearly four months after the original version …

Rhybudd am ‘ddirywiad di-droi’n-ôl’ i Gymru o doriadau’r BBC – gweinidogion

Bydd niwed parhaol i’r ffordd y mae’r BBC yn ymdrin â Chymru os bydd y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime