google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Esyllt Sears: ‘Falch i roi llais i famau sengl’

Advertisements

Wrth drafod ei sefyllfa a’r heriau sy’n codi fel mam sengl ar y podlediad – mae Esyllt wedi cael ymateb da gan rieni sengl eraill, meddai: “‘Nes i sôn am wylie ysgol pan ti ar ben dy hunan a pha mor anodd yw e pan ti’n riant sengl. Mae’n anodd pan ti gyda’r plant yn y gwyliau ond mae hefyd yn anodd pan dyw’r plant ddim gyda ti.

“Yn sydyn ti’n teimlo’n unig ac mae pawb ar wyliau gyda’u plant eu hunain. Mae’n gallu neud i ti deimlo’n ynysig. Ar ôl rhannu hynny ges i lot o negeseuon gan bobl yn dweud bod nhw’n teimlo fel na, a heb glywed unrhywun yn siarad amdano o’r blaen.

“Mae’r pethau ‘na’n rili neis achos ti jest yn siarad am dy fywyd – ti ddim yn neud e achos bod ti’n gobeithio bod e’n mynd i helpu pobl eraill. Ond pan mae fe yn helpu ac maen nhw’n gallu uniaethu gyda rhywun dwi’n falch mod i wedi siarad amdano.

“Ti wastad yn dysgu fel rhiant – tin gorfod addasu gyda’r plant. Fel rhiant sengl dwi’n credu mewn jest mynd gyda dy reddf a gwybod bod ti’n neud job iawn.

“Dyw’r ffaith bod ti ar ben dy hunan ddim yn golygu bod ti’n neud job gwaeth.

“Dwi’n gobeithio bod ‘na rhywbeth i bawb yn y pod o ran sefyllfa magu plant.”

Yn ogystal â pherfformio standyp mae Esyllt yn cyflwyno ac yn sgriptio rhaglenni radio a theledu gan gynnwys Gareth Gwynn and Esyllt’s Scrapbook a The News Quiz.

Yn y podlediad mae hi a Robin yn trafod pynciau difrifol fel defnydd blant o dechnoleg a thracio lleoliad y plant ond gyda hiwmor, yn ôl Esyllt: “Dwi ddim yn rhiant sy’ byth wedi poeni loads am y plant.

“Mae pethe yn codi fel defnydd ffôns – ond mae na ffyrdd o gwmpas y pethau yma.

“Mae’n anodd i bob rhiant – mae gymaint o sialensau dyddie ‘ma ‘nath rhieni ni byth gorfod ddelio gyda.

“Mae popeth mor rhyngwladol nawr, ti ddim jest yn byw yn dy filltir sgwar. Mae’r plant yn cael eu exposeio i gymaint o bethau a ti’n gorfod dal lan gyda popeth.

“Y ffôn, technoleg ac AI – dwi’n poeni fwya’ am y plant yn tyfu lan a methu meddwl dros eu hunain a llunio barn eu hunain.

“Dwi’n credu bod ni’n cael hi’n anoddach ond ti’n gorfod rhoi credit i’r plant am fod yn resilient ac yn ddeallus. A ti’n gorfod trystio byddan nhw’n iawn.

“A maen nhw’n mynd i feio ti am rhywbeth. Mae pob plentyn yn beio eu rhieni am rhywbeth.”


BBC News

Views: 1

See also  Ffrae dros ddatganoli plismona a chyfiawnder i Gymru

Check Also

Abersoch beach hut with no power goes on sale for £200k

A beach hut with no electricity or running water has gone on the market for …

Jilted Swansea bride Kayley Stead who still held wedding gets engaged

When Kayley Stead was left alone at the altar on her big day, she did …

Singer Olivia Rodrigo ‘had to eat sausage rolls all day’ in Llandudno

Pop star Olivia Rodrigo has told how she ended up only eating sausage rolls all …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment....