google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 16 2026

Plismon yn ddieuog o ymosod wrth arestio dyn ym Mhorthmadog

52e074b0 2a4f 11f0 a8b0 31dbf9c39693.jpg

Advertisements

Penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau fod PC Williams yn gweithredu er mwyn amddiffyn ei hun yn erbyn dyn yr oedd o’r farn ei fod yn dreisgar ac o dan ddylanwad cyffuriau.

Clywodd y llys fod PC Richard Williams a chydweithiwr wedi mynd i gyfeiriad ym Mhorthmadog ym mis Mai 2023 yn dilyn galwad o drais domestig.

Penderfynon nhw fod angen iddyn nhw arestio Steven Clark yn ddiweddarach, ond wrth i PC Williams geisio rhoi cyffion arno, aeth Mr Clark yn syth tuag at y swyddog arall fel pe bai yn roi “tacl rygbi” iddi, gan ei tharo i’r llawr.

Disgrifiodd PC Williams sut y gwnaeth Steven Clark wrthsefyll.

Cyfaddefodd ei fod wedi dyrnu Mr Clark yn ei wyneb naw gwaith, ond dywedodd mai ergydion er mwyn “tynnu sylw” Mr Clark oedd rhain, er mwyn atal Mr Clark rhag gwrthsefyll.

Cafodd y rheithgor PC Williams yn ddieuog ar ddiwedd achos a barodd am saith niwrnod.

Cafodd PC Williams ei atal o’i waith gan yr heddlu tan i’r achos ddod i ben.


BBC News

See also  Prifysgol Aberystwyth yn ein cadw'n ddiogel rhag tywydd y gofod

Check Also

Powys: Ystyried y newid mwyaf i wasanaethau iechyd ers cenhedlaeth

Mae newidiadau hefyd yn cael eu cynnig i unedau mân anafiadau a gofal brys yn …

Reform not suspending former leader arrested at weekend, says chief whip

In a statement to the press on Wednesday, Evans ruled himself out from the contest, …

Heddwas wnaeth daro dyn naw gwaith ‘wedi gwneud dim byd o’i le’

Dywedodd PC Williams wrth y gwrandawiad ei fod yn defnyddio ei law chwith, a’i fod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime